Abertawe dan-21 allan o Dlws y Gynghrair

Adnan Maric Image copyright Rex Features

Mae tîm dan-21 Abertawe allan o Dlws y Gynghrair ar ôl cael eu trechu gan Coventry wedi ciciau o'r smotyn.

Y tîm cartref aeth ar y blaen ar ôl 70 munud, gydag Oli McBurnie yn sgorio cic o'r smotyn ar ôl trosedd arno yn y cwrt cosbi.

Ond bum munud cyn y chwiban olaf roedd Coventry yn gyfartal wrth i Jordan Willis benio heibio i Gerhard Tremmel.

Gyda dim amser ychwanegol yn Nhlws y Gynghrair, aeth y gêm yn syth i giciau o'r smotyn.

Llwyddodd Reice Charles-Cook i arbed dwy o ergydion Abertawe, a gyda'r ymwelwyr yn sgorio pob un o'u pedair cic nhw, daeth taith yr Elyrch ifanc i ben.