Dyn 78 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad tri char

A4058 ger Trehopcyn Image copyright Google
Image caption Roedd y dyn fu farw yn teithio'n groes i yrwyr y ddau gar arall oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad ar yr A4058 ger Trehopcyn

Bu dyn 78 oed farw mewn gwrthdrawiad ger Trehopcyn, Rhondda Cynon Taf, nos Fawrth.

Roedd tri char yn rhan o'r digwyddiad ar ffordd osgoi Trehafod ar yr A4058 ychydig wedi 20:00.

Bu'r dyn, oedd yn teithio tua'r de, farw yn y fan a'r lle.

Cafodd gyrwyr y ceir eraill - menywod lleol 31 a 46 oed oedd yn teithio tua'r gogledd - eu cludo i Ysbyty Brenhinol Morgannwg gydag anafiadau sydd ddim yn fygythiad i'w bywyd.

Mae'r heddlu yn cefnogi teulu'r dyn fu farw ac maen nhw'n apelio am dystion.