Tlodi yn fygythiad i iechyd plant, medd adroddiad

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Dr Mair Parry yn ymateb i'r adroddiad ar iechyd plant

Mae'r bwlch rhwng y tlawd a'r cyfoethog yn ein cymdeithas yn peryglu iechyd plant Cymru, meddai adroddiad gan Goleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant.

Yn ôl yr adroddiad mae angen camau beiddgar i ddelio gyda gordewdra, iechyd meddwl ac ysmygu yng Nghymru.

Daw'r data yn yr adroddiad o 25 o fesurau gwahanol oedd yn edrych ar ystod o ffactorau fel cyfraddau marwolaethau, asthma, epilepsi a chyfraddau isel o fwydo o'r fron.

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd.

Mae'r ddogfen yn dangos bod:

  • 210 o fabanod, plant a phobl ifanc ar gyfartaledd yn marw yng Nghymru bob blwyddyn; gyda mwyafrif y marwolaethau yn digwydd mewn babanod sy'n llai na blwydd oed;
  • Tua 200,000 o blant Cymru yn byw mewn tlodi ac yn fwy tebygol o gael problemau iechyd ac o ymddwyn mewn ffordd fwy mentrus;
  • 7% o fechgyn 15 oed a 9% o ferched 15 oed yn ysmygu yn gyson;
  • 13% o bobl ifanc 15 oed yn yfed alcohol unwaith yr wythnos;
  • 27% o blant Cymru yn dechrau'r ysgol gynradd yn ordew.
Image caption Dyw data ddim yn cael ei gasglu ar gyfer plant hŷn sydd yn ordew yng Nghymru

Mae Dr Mair Parry, swyddog y coleg yng Nghymru yn dweud bod "tlodi yn cael effaith mawr ar iechyd plant a phobl ifanc".

"Mae mamau o gymunedau difreintiedig yn fwy tebygol o ysmygu, yfed ac o beidio bwyta diet cytbwys pan yn feichiog sy'n gallu arwain at fabanod sydd â phwysau geni isel a pherygl i iechyd plentyn," meddai.

"Ac mae pobl ifanc o gefndiroedd mwy tlawd yn fwy tebygol o ysmygu ac yfed, sydd yn gallu achosi problemau iechyd yn y tymor byr a'r hir dymor."

'Dim ateb hawdd'

Mae'r adroddiad yn canmol rhaglen Dechrau'n Deg gan y llywodraeth, rhaglen i deuluoedd o gefndiroedd difreintiedig sy'n rhoi gofal plant am ddim a chyfle i rieni ddysgu sgiliau magu plant.

Ond mae Dr Mair Parry yn dweud bod yna fylchau yn y ddarpariaeth fel y data ar gyfer iechyd meddwl, gordewdra ac anableddau.

Ymhlith yr argymhellion mae data mwy cyson a data sy'n bosib ei gymharu gyda gweddill y Deyrnas Unedig.

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod angen lleihau nifer y plant sy'n marw, ond yn cydnabod bod y rhesymau pam yn "gymhleth".

Bydd angen "ystod o ddatrysiadau o ran polisi ac ymyrraeth", meddai'r adroddiad, er mwyn dod â'r ffigwr i lawr.


'Cymaint o wahaniaeth'

Mae Rachel Thomas yn un o'r rhieni sydd yn defnyddio gwasanaeth Dechrau'n Deg yn Aberteifi:

"I fi, byddwn i byth yn gallu fforddio gyrru fy mhlentyn yma pum diwrnod yr wythnos. Mae 'na rai na fyddai'n gallu talu i blentyn ddod yma am ddiwrnod.

"Mae cael mynediad am ddim i'r gwasanaethau yma wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i ddatblygiad fy mhlentyn.

"O ran iechyd plant, byddai'n wych i'r llywodraeth fuddsoddi mwy mewn gweithgareddau y tu allan i'r ysgol.

"Byddai hynny yn lleihau nifer y plant sy'n mynd allan i ysmygu a chymryd cyffuriau yn yr ardal yma."


Argymhelliad arall yw darparu addysg bersonol ar draws ysgolion cynradd ac uwchradd a thaclo gordewdra.

Does "dim ateb hawdd" i'r broblem meddai'r awdur, ond mae yna fesurau allai wneud gwahaniaeth fel cyflwyno uchafswm cyflymder o 20 milltir yr awr mewn ardaloedd lle mae adeiladau, a lleihau'r cyfleoedd i bobl ifanc gael bwyd sydd ddim yn iach mewn llefydd fel ysgolion, colegau a chanolfannau hamdden.

Mae Dr Parry yn dweud bod yr argymhellion yn rhai "uchelgeisiol".

"Mae'n rhaid i ni ddangos arweiniad go iawn o ddechrau bywydau pobl a hybu iechyd da a llesiant cymdeithas gyfan," meddai.

"Os nad ydyn ni yn gwneud hyn, fe fyddwn ni wedi methu cenhedlaeth gyfan o bobl yng Nghymru."

Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd llefarydd bod Llywodraeth Cymru yn ystyried holl argymhellion yr astudiaeth, ac wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd.