Eglwysi yn ceisio bod yn 'llai ffurfiol' medd Archesgob

Barry M

Mae'r Eglwys yng Nghymru yn ceisio bod "yn llai ffurfiol" er mwyn addasu i'r gymdeithas heddiw, meddai'r Archesgob Barry Morgan yn ei gyfweliad olaf yn ei swydd.

Bydd yn rhoi'r gorau i'w swydd ddydd Mawrth nesaf.

Mae'n cyfaddef bod y niferoedd sydd yn cyfri' eu hunain yn grefyddol wedi gostwng yng Nghymru ond bod yr Eglwys yn ceisio mynd i'r afael â'r broblem.

Dywedodd: "Rydyn ni wedi trîal nawr cael pobl i weithio gyda'i gilydd fel clerigwyr a chlerigwyr gyda lleygwyr, yn hytrach na bod ni yn gosod person ar ei ben ei hun neu ar ei phen ei hun mewn plwyf a gadael y cwbl iddyn nhw.

"Rydyn ni yn trîal darganfod ffyrdd newydd o fod yn eglwys."

'Gormod o eglwysi'

Dywedodd bod yna "arbrofion" yn digwydd mewn eglwysi fel cynnal ysgolion Sul ar ddiwrnodau yn ystod yr wythnos ond bod crefydd yn parhau i fod yn bwysig i bobl mewn cyfnod o argyfwng.

"Mae pobl eisiau ryw fath o fynegiad crefyddol. O'ch chi yn gweld hynny adeg Aberfan, o'ch chi yn gweld hynny ar adegau eraill pan mae canmlwyddiant rhyw fath o drasiedi yn digwydd.

"Dyw pobl ddim hyd yn oed moen ryw fath o gyfarfod. Maen nhw moen cyfarfod crefyddol ac mae modd i'r Eglwys i gyfathrebu yn bositif ar amseroedd felly."

Image copyright AFP/Getty
Image caption Mae Barry Morgan yn dweud bod yna rhai o fewn yr eglwys wedi cefnogi'r syniad o ganiatáu i gyplau hoyw briodi ond doedd dim mwyafrif

Mae'n dweud hefyd bod yna ormod o eglwysi yng Nghymru, a nifer yn hen a ddim yn mynd i bara am byth.

Ond mae cau eglwysi yn bwnc sensitif meddai, a dyw hi ddim yn bosib gwneud hyn heb ymgynghori gyda'r gymuned.

'Rhwygo'r eglwys'

Yn ddiweddar mae'r Archesgob wedi ymddiheuro i bobl hoyw am y ffordd mae'r Eglwys wedi eu trin ar hyd y blynyddoedd.

Mae'n dweud bod camau cadarnhaol wedi eu cymryd hefyd gydag offeiriaid rŵan yn cael dweud gweddïau gyda phobl hoyw yn yr eglwys.

Ond dyw Cristnogion hoyw dal ddim yn gallu priodi o fewn yr Eglwys.

"Pe bydden ni wedi dod a bil gerbron y corff llywodraethol byddai rhaid i'r bil yna gael dwy ran allan o dair o gefnogaeth yn tŷ'r esgobion, tŷ'r lleygwyr, tŷ'r clerigwyr," meddai Dr Morgan.

"Byddai hynny ddim wedi digwydd ac efallai bydden ni wedi rhwygo'r Eglwys. Felly mae'n rhaid defnyddio synnwyr cyffredin yn hyn o beth."

Wrth edrych yn ôl ar ei gyfnod dywedodd hefyd unwaith y bydd yn ymddeol na fydd yn siarad yn gyhoeddus am bynciau. Bydd yn gadael hynny yw olynydd meddai.