Cynlluniau drafft addysg Gymraeg yn 'ddi-uchelgais'

Dosbarth

Ni fydd targed y llywodraeth o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn cael ei gyrraedd oni bai bod cynlluniau drafft cynghorau sir ar addysg Gymraeg yn cael eu newid.

Dyna rybudd Swyddog Ymchwil Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG), sy'n dweud na ddylai'r gweinidog sydd â chyfrifoldeb am yr iaith dderbyn y cynlluniau fel y maen nhw.

Mewn llythyr at Alun Davies, sydd wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol, mae'r mudiad yn dweud bod y cynlluniau presennol yn "ddi-uchelgais" a bod angen iddyn nhw fod yn rhai "blaengar a mentrus".

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod cynghorau yn "cymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif ynglŷn â chynlluniau strategol addysg Gymraeg, ac maen nhw wedi ymrwymo'n llawn i'r polisi hwn".

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod Gweinidog y Gymraeg wedi gwneud yn glir ei fod yn disgwyl cynlluniau cryf ac uchelgeisiol, ac y bydd yn "herio unrhyw gynlluniau nad ydynt yn ddigon uchelgeisiol".

'Uchelgais'

Yn ôl Heini Gruffudd, Swyddog Ymchwil RhAG, mae "gwahaniaeth mawr rhwng uchelgais y cynlluniau ac uchelgais y llywodraeth" ar gyfer 2017-2020.

Mae'n dweud bod awdurdodau lleol i fod nodi yn eu strategaethau sut maen nhw am weld twf, rhoi gwybod i rieni am fanteision addysg Gymraeg a sicrhau bod digon o lefydd mewn ysgolion os yw'r ysgol o fewn trothwy o 10% i fod yn llawn.

Ond dyw hyn ddim wedi digwydd, meddai Mr Gruffudd wrth BBC Cymru Fyw: "Yr hyn 'dyn ni wedi gweld yw bod y rhan fwyaf o siroedd fel pe baen nhw wedi anwybyddu cyngor Alun Davies.

"Felly 'dyn ni'n gofyn i Alun Davies beidio derbyn y cynlluniau fel maen nhw ac i ail lunio yn arbennig yr adran cynyddu niferoedd plant saith oed sydd mewn addysg Gymraeg."

Image caption Mae'r llythyr yn dweud mai ychydig o sylw sydd i weledigaeth y llywodraeth o weld twf cyflym o fewn addysg Gymraeg

Dau gynllun gan gynghorau sydd yn foddhaol, meddai RhAG - sef cynlluniau Sir Benfro a Gwynedd - ond mae'r llythyr yn dweud bod y mwyafrif yn "annelwig" a nifer yn "ddisgrifiadol - yn disgrifio'r hyn sydd wedi digwydd - yn hytrach nag yn ddatblygiadol".

Mae RhAG hefyd yn dweud bod y ffordd y mae rhai cynghorau yn mesur y galw yn wahanol i'r canllaw sy'n cael ei osod gan y llywodraeth.

Dywedodd Mr Gruffudd mai'r canllaw yw gofyn i rieni os ydyn nhw eisiau i'w plant gael addysg Gymraeg, ond mai'r hyn sydd yn digwydd mewn rhai siroedd yw eu bod yn gofyn i ba ysgol maen nhw eisiau i'w plant fynychu.

"Mewn sefyllfa fel yna bydd rhan fwyaf o rieni yn nodi'r ysgol leol Saesneg," meddai.

"Felly maen nhw'n cymysgu'r galw gan drio cael gwybod i ba ysgol Saesneg y bydden nhw am fynd, yn hytrach na ydyn nhw am gael addysg Gymraeg. Mae'r holl broses yn gymysglyd."

Image caption "Mae gwahaniaeth mawr rhwng uchelgais y cynlluniau ac uchelgais y llywodraeth," medd Heini Gruffudd

Mae'n awgrymu bod "diogi" ymhlith y swyddogion cyngor a bod newid y cynlluniau am gymryd ymdrech ac ymroddiad.

"Falle bod angen i'r gweinidog, o ddifrif fel petai, ddweud tipyn bach o'r drefn wrth y siroedd iddyn nhw symud tipyn yn fwy cyflym nag y maen nhw," meddai Mr Gruffudd.

Dywedodd Llywodraeth Cymdeithas Leol Cymru bod cynghorau yn "cefnogi uchelgais a thargedau Llywodraeth Cymru er lles y Gymraeg" er bod y sefyllfa ariannol yn heriol.

Mae'r llefarydd hefyd yn dweud mai mater i awdurdodau unigol yw'r cynlluniau a'u bod yn ystyried yr "amgylchiadau lleol" a'r "pwysau unigol" yn y sir honno.

"O safbwynt strategol, fodd bynnag, mae byd llywodraeth leol wedi ymrwymo i gydweithio â Llywodraeth Cymru er mwyn gwireddu'r uchelgais sy'n gyffredin iddyn nhw.

"Bydd WLGA yn trafod y cynlluniau gyda Llywodraeth Cymru ac Alun Davies AC, Gweinidog Dysgu Gydol Oes a'r Gymraeg, cyn bo hir gan geisio gofalu y bydd cynlluniau o'r fath yn cyd-fynd â Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, proses llunio'r cwricwlwm newydd a tharged Llywodraeth Cymru y dylai fod miliwn o Gymry Cymraeg erbyn 2050."

'Dyletswydd statudol'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i baratoi Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg, a'u cyflwyno i Weinidogion Cymru eu hystyried. Yn y cynlluniau hyn, rhaid i awdurdodau lleol osod targedau heriol ar gyfer datblygu addysg cyfrwng Cymraeg yn eu hardaloedd.

"Rhaid i'r cynlluniau hefyd nodi camau gweithredu ar gyfer sicrhau cymaint o gyfleoedd â phosib i bobl allu manteisio ar addysg cyfrwng Cymraeg, a hynny ar draws yr holl gyfnodau addysgol.

"Gall Gweinidogion gymeradwyo cynlluniau, eu haddasu ac yna'u cymeradwyo, neu gallant eu gwrthod a pharatoi cynllun newydd ar gyfer awdurdod. Ni allwn wneud sylw am strategaethau unigol.

"Fodd bynnag, mae Gweinidog y Gymraeg wedi dweud yn glir ei fod yn disgwyl cynlluniau cryf ac uchelgeisiol ac y bydd yn herio unrhyw gynlluniau nad ydynt yn ddigon uchelgeisiol."