Pryder bod amddiffynnwr Caerdydd allan am y tymor ag anaf

Bruno Manga Image copyright Rex Features
Image caption Mae Manga wedi chwarae 15 o weithiau dros Gaerdydd y tymor hwn

Mae pryderon y gallai amddiffynnwr Caerdydd, Bruno Manga fod allan am weddill y tymor wedi iddo anafu cymalau yn ei ben-glin.

Bydd Manga yn cael profion ddydd Llun i asesu'r anaf a gafodd wrth chwarae dros Gabon yng Nghwpan Cenhedloedd Affrica yn gynharach yn y mis.

Mae cytundeb yr amddiffynnwr 28 oed gyda'r Adar Gleision yn dod i ben yn yr haf, ac roedd y rheolwr Neil Warnock wedi awgrymu'n wreiddiol ei fod yn awyddus gadael iddo fynd.

Ond yn gynharach yn y mis dywedodd Warnock fod Manga wedi creu argraff arno, ac y gallai gynnig cytundeb newydd i'r chwaraewr.