Cyhoeddi enw dyn fu farw mewn gwrthdrawiad

A4058 ger Trehopcyn Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd ar ffordd osgoi Trehafod ar yr A4058 ger Trehopcyn

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ger Trehopcyn, Rhondda Cynon Taf, nos Fawrth.

Roedd Dilwyn Williams, yn 78 oed, ac o Gaerffili.

Mae teulu Mr Williams wedi rhoi teyrnged iddo, drwy ddweud ei fod yn "gymeriad hoffus yn lleol, a oedd wastad yn gwneud yn fawr o bob cyfle."

Bu Mr Williams farw yn y fan a'r lle wedi'r gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd ar ffordd osgoi Trehafod ar yr A4058 ychydig wedi 20:00.

Cafodd gyrwyr y ceir eraill - merched lleol 31 a 46 oed oedd yn teithio tua'r gogledd - eu cludo i Ysbyty Brenhinol Morgannwg gydag anafiadau llai difrifol.

Mae'r heddlu yn cefnogi teulu Mr Williams, ac maen nhw'n apelio am dystion.