Eurovision: Y Gymraes Lucie Jones i gynrychioli’r DU

Lucie Jones Image copyright PA

Y gantores o Gaerdydd, Lucie Jones sydd wedi'i dewis fel ymgeisydd y DU ar gyfer cystadleuaeth yr Eurovision eleni.

Bydd hi'n canu Never Give Up On You yn y digwyddiad yn Kiev, Wcrain ym mis Mai.

Cafodd y gân ei chyd-ysgrifennu gan Emmelie de Forest, y gantores o Ddenmarc fu'n fuddugol yn y gystadleuaeth yn 2013.

Fe wnaeth Jones ennill pleidlais fyw ar raglen Eurovision: You Decide ar BBC Two nos Wener, ble'r oedd chwech o gyn-gystadleuwyr yr X-Factor yn canu i geisio cael eu dewis fel ymgeisydd y DU.

Daeth Jones, 25 oed, yn wythfed ar yr X-Factor 'nôl yn 2009.

"Rydw i wrth fy modd, ac wedi synnu," meddai ar ôl cael ei chyhoeddi fel yr enillydd.

"Mae heno wedi bod yn un o nosweithiau gorau fy mywyd."