Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 2-1 Boreham Wood

John Rooney Image copyright Rex Features

Fe wnaeth Wrecsam drechu Boreham Wood mewn gêm welodd y tair gôl yn cael eu sgorio o'r smotyn.

Aeth y tîm cartref ar y blaen wrth i Anthony Barry rwydo ar ôl trosedd ar Izale McLeod yn y cwrt cosbi.

Ond daeth yr ymwelwyr yn gyfartal gyda chwarter awr yn weddill ar ôl i Mark Carrington faglu Morgan Ferrier, wnaeth sgorio'r gic o'r smotyn.

Roedd mwy o gyffro yn y munud olaf wrth i John Rooney sgorio cic o'r smotyn arall i selio'r fuddugoliaeth i Wrecsam.