Cwpan Eingl-Gymreig: Gweilch 20-14 Bryste

Gweilch v Bryste Image copyright Getty Images

Fe wnaeth mewnwr Cymru Rhys Webb lwyddo i chwarae 40 munud wrth i'r Gweilch drechu Bryste yn y Cwpan Eingl-Gymreig.

Roedd Webb ar gael i'w ranbarth ar ôl cael ei ryddhau o garfan Cymru i geisio profi ei ffitrwydd i Rob Howley.

Roedd hi'n ddechrau da i'r tîm cartref wrth i Dafydd Howells groesi, cyn i Max Crumpton daro 'nôl i Fryste cyn hanner amser.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen o gais Marc Jones, ond llwyddodd i'r blaenasgellwr Sam Underhill sicrhau'r fuddugoliaeth i'r Gweilch yn y munudau olaf.