Gwaith yn dechrau ar barc manwerthu yn Sir Gâr

Datblygiad Gorllewin Cross Hands Image copyright Cyngor Sir Gaerfyrddin
Image caption Dyluniad artist o'r datblygiad yng Ngorllewin Cross Hands

Mae'r gwaith wedi dechrau ar ddatblygiad manwerthu yn Sir Gaerfyrddin fydd yn creu cannoedd o swyddi ar gyfer yr ardal.

Bydd siopau, tafarn a bwyty yn rhan o'r safle 10 erw yng Ngorllewin Cross Hands.

Fe fydd tua 260 o swyddi manwerthu yn cael eu creu, ynghyd â mwy na 100 o swyddi adeiladu.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Emlyn Dole bod y datblygiad yn dangos "hyder gwych".

Cwmni Conygar sydd y tu ôl i'r fenter, wedi iddyn nhw brynu'r safle yn 2015 ar ôl i gynlluniau am archfarchnad Sainsbury's fethu a chael eu gwireddu.

"Y buddsoddiad yma yw'r cyntaf i Conygar yn Sir Gâr, a gobeithio y cyntaf o nifer," meddai Mr Dole.

Image copyright Cyngor Sir Gaerfyrddin
Image caption Fe wnaeth arweinwyr y cyngor ymweld â'r safle wrth i'r gwaith ddechrau