Cwpan Eingl-Gymreig: Dreigiau 6-18 Newcastle

Dreigiau v Newcastle Image copyright Getty Images

Cafodd y Dreigiau eu trechu gan Newcastle yn y Cwpan Eingl-Gymreig er i'r gêm orffen yn gynnar oherwydd y cyflwr y cae.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen trwy gais Mark Wilson cyn i Beli Adulla ymestyn eu mantais.

Cafodd y gêm ei galw i ffwrdd ar ôl 68 munud gyda'r glaw yn parhau a chyflwr y cae yn gwaethygu yn Rodney Parade.

Gan fod dros 60 munud o'r gêm wedi cael ei chwarae, mae'r canlyniad yn sefyll heb fod angen ei haildrefnu.