Cymru gwlad y chwedlau

Mae eleni wedi ei dynodi yn Flwyddyn y Chwedlau yng Nghymru. I nodi hynny, mae gwefan ryngweithiol newydd ar gael o 12 Ebrill i'ch helpu i ddilyn rhai o'n chwedlau adnabyddus.

Yn y cyfamser dyma i chi flas o rai o'r chwedlau difyr sydd yn rhan o'n treftadaeth:


Image copyright Croeso Cymru

Traeth y Borth - Chwedl Cantre'r Gwaelod

Yn rhedeg i'r gogledd o Aberteifi at Ynys Enlli, teyrnas hynafol a suddodd dan y môr oedd Cantre'r Gwaelod.

Os wnewch chi ymweld â thraethau'r Borth, gallwch weld olion bonion coed yn ymwthio o'r tywod. Dyma weddillion coedwig 5000 oed, ond mae chwedloniaeth yn cynnig sawl esboniad arall am ei bodolaeth.


Image copyright Croeso Cymru

Ysbrydion Castell Powys

Yn dyddio nôl i'r 13eg ganrif, does dim syndod bod digon o chwedlau'n perthyn i un o gestyll mwyaf Cymru, sef Castell Powys, ger Y Trallwng.

Ym 1780, honnodd menyw oedrannus oedd yn aros yno fod dyn mewn siwt oedd wedi'i thrimio ag aur wedi dod i mewn i'w hystafell a'i harwain drwy'r castell at gist gudd.

Mae nifer hefyd wedi sôn am bianos yn chwarae ar eu pennau eu hunain, cnocio wrth ddrysau pan na fydd neb o gwmpas a dwylo'n gafael ar bobl wrth gerdded i lawr grisiau'r castell.


Ymweliad y Diafol â Phontarfynach

Yn ôl y chwedl, mae'n debyg bod y Diafol wedi ymweld â Cheredigion yn yr 11eg ganrif, ac iddo daro bargen anarferol tra oedd yno.

Roedd hen wraig wedi colli ei buwch yr ochr draw i afon Mynach, a chynigiodd y Diafol godi pont iddi os gallai gael enaid y peth byw cyntaf i'w chroesi.

Cytunodd y wraig i hyn, a thrannoeth fe'i syfrdanwyd o weld y bont wedi'i chwblhau. Ond cyn ei chroesi, tynnodd ddarn o fara o'i phoced a'i daflu i'r ochr draw.

Cyn i'r Diafol allu ymateb, rhedodd ei chi ar ôl y bara, ac felly'r ci oedd y peth byw cyntaf i groesi'r bont. Yn ddig ac mewn embaras, ni ddychwelodd y Diafol i Gymru wedyn.


Image copyright Janet Baxter

Twm Siôn Cati

Roedd Twm Siôn Cati'n adnabyddus am ddwyn oddi ar y cyfoethog a thwyllo'r rhai diegwyddor.

Cafodd ei eni yn Nhregaron, a threuliodd sawl blwyddyn mewn ogof ger Rhandirmwyn tra'r oedd ar ffo rhag gwahanol swyddogion y gyfraith. (Mae dal yn bosib i chi ymweld â'r ogof.)

Erbyn hyn yn Nhregaron mae cerflun pren sy'n deyrnged i'r 'lleidr-pen-ffordd' a gallwch olrhain ei gamau ar Dro Twm, llwybr 3.5 milltir yn y wlad o gwmpas Tregaron.


Image copyright Croeso Cymru

Draig Llanrhaeadr-ym-Mochnant a Phistyll Rhaeadr

Mae'r chwedl yn sôn am Wybr oedd yn byw yn y llyn uwchben y pistyll o ble y byddai'n hedfan i lawr i frawychu'r pentrefwyr oedd yn byw islaw.

Llwyddodd y pentrefwyr hirben i dwyllo'r Wybr, a'i ladd, gan adael i'r pentrefwyr fyw'n ddedwydd iach byth bythoedd wedi hynny.


Image copyright Croeso Cymru

Torcalon Lleucu Llwyd

Menyw ifanc hardd oedd Lleucu Llwyd oedd yn byw yn y 14eg ganrif yn fferm Dolgelynnen ar lan afon Dyfi.

Er gwaethaf protestiadau ei thad, roedd Lleucu mewn cariad â Llywelyn Goch ap Meurig Hen, wnaeth addo ei phriodi ar ôl taith i dde Cymru.

Ond tra oedd i ffwrdd, llwyddodd tad Lleucu i'w darbwyllo nad oedd gan Llywelyn unrhyw fwriad i ddod yn ôl, a'i fod ar fin priodi â rhywun arall.

O glywed hyn, bu farw Lleucu o dorcalon, a phan ddychwelodd Llywelyn, claddodd Lleucu gan ei hanfarwoli am byth drwy farddoniaeth a chân.


Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.