Dim hwyl yr ŵyl

Maen nhw ymhlith uchafbwyntiau'r calendr diwylliannol yng Nghymru, ond mae 'na bryder bod rheolau iechyd a diogelwch yn peryglu dyfodol nifer o wyliau cerddorol.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae nifer o wyliau poblogaidd wedi diflannu. Gŵyl Gopr Amlwch ydy'r ddiweddara' i ddod i ben.

Oes 'na beryg felly bod rheolau llymach yn mygu creadigrwydd ac yn cyfrannu at dranc yr ŵyl gerddorol?

Dywedodd Arwel Hughes, un o ddau oedd yn trefnu Gŵyl Gopr Amlwch: "Oedd rhywun wedi cwyno am lefel y sŵn wedyn oedd gofynion y cyngor sir yn cicio i fewn yn fwy. Ond bysa ti'n meddwl bysa'r cyngor yn bod yn fwy meddylgar.

"Mae 'na 16,000 o bobl yn dod i'r digwyddiad a maen nhw'n gwrando ar ddau neu dri o bobl - lle mae'r synnwyr cyffredin? Gaetho ni ddim problem am 10 mlynadd."

Mae Arwel o'r farn bod arferion cymdeithas wedi newid a bod pobl yn llawer fwy parod i hawlio iawndal - sy'n gwneud hi'n anoddach i drefnwyr gwyliau tebyg.

"Ti'n gorfod gwneud iechyd a diogelwch o achos yswiriant a ma' pobl yn ddigon sydyn i claimio yn dy erbyn di dyddia' yma," meddai.

"Ti'n gorfod ei 'neud o, a dwi'n cytuno efo fo. Dwi wedi gwneud arholiada' pellach i gael y cymwysterau iawn i arwyddo'r dogfennau a ballu.

"Ond dim otch pa faes wyt ti, ma' iechyd a diogelwch yn g'neud petha' yn anoddach efo'r culture yma o blame and claim - rhaid i chdi fod mwy on the ball.

"Oedd pwysau'r digwyddiad i gyd ar fy 'sgwyddau i ac un boi arall. O'n i'n nyrfys [ynglŷn â threfnu'r ŵyl] achos y peth diwetha' ti isio i ddigwydd ydy rhywun i frifo.

"Ond roedd ganddo ni record hollol lân ac mi o'dd yr heddlu wrth eu bodda achos oedd 'na ddigon o sdiwards o gwmpas yn ystod y digwyddiad. Ond doedd o jest ddim yn meant to be."

Image caption Roedd dros 15,000 yn heidio i Amlwch ar gyfer y Gŵyl Gopr yn flynyddol

Gŵyl gardd gefn?

Robin Llywelyn ydy rheolwr gyfarwyddwr pentref Portmeirion, lle mae Gŵyl Rhif 6 yn cael ei chynnal.

"Os ydy rhywun yn cael codwm neu anaf oherwydd rhyw fai neu nam ar y trefniadau neu'r safle, wel maen nhw'n debygol o fynd ar ôl ei hawliau," meddai.

"Ond pwrpas iechyd a diogelwch ydy sicrhau bod pobl yn gallu mwynhau'r achlysur yn ddiogel. Ma' cadw atyn nhw'n helpu i osgoi unrhyw broblema'. Os ydy rhywun isio osgoi problema' iechyd a diogelwch, ddylia nhw beidio cynnal achlysur mawr a'i 'neud o yn yr ardd gefn.

"Wrth gwrs bod y rheola' yn llym ond maen nhw yna am reswm. Mae'n well cydweithio efo'r awdurdodau a sicrhau bod hynny ddim yn amharu ar fwynhad y bobl.

"Ma' damweiniau yn gallu digwydd ond o leia' ddylian nhw ddigwydd mewn ffyrdd nad oes modd eu hosgoi nhw o safbwynt y trefnwyr. Mae o'n sicr yn rhan o gostau cynnal y digwyddiad a dyna be' sy' angen ei roi yn y gyllideb cyn dechra' mynd ati i drefnu, yn lle sylweddoli hynny hanner ffordd drwyddi."

Mae Guto Brychan wedi bod yn trefnu Maes B - o bosib yr ŵyl gerddorol Gymraeg fwyaf - ers rhai blynyddoedd bellach.

Yn y gorffennol roedd iechyd a diogelwch yn dod o dan bolisi cyffredinol yr Eisteddfod Genedlaethol, ond bellach mae person yn cael ei gyflogi i wneud hynny ar gyfer Maes B.

"Bellach ni'n trio trin Maes B fel gŵyl ar draul ei hunan. Mae'r maes pebyll wedi mynd yn brysurach yn ddiweddar felly mae'n rhaid sicrhau bod ni gyda'r adnoddau a'r canllawiau gorau mewn lle."

Image caption Cynulleidfa liwgar Gŵyl Rhif 6 ar y dydd Sadwrn yn 2016

Risg uchel

Mae Guto hefyd yn gweithio ar ddigwyddiadau o bob math yng Nghlwb Ifor Bach, ac mae rheolau llymach wedi dod i rym yn y blynyddoedd diwetha'.

"'Da ni erbyn hyn yn defnyddio arbenigwr allanol i gynghori ni efo'n polisi iechyd a diogelwch, lle o'r blaen oedd e'n cael ei drin yn fewnol," meddai. "Ond mae'r rheoliadau a'r canllawiau yn newid o flwyddyn i flwyddyn felly mae'n rhaid scirhau bod nin cydymffurfio efo'r rheolau cywir a gwneud yn siŵr bod ni up to speed.

"Yn y maes ry'n ni'n gweithio mae'r pethe 'ma yn high-risk - dy'n ni ddim yn gweithio mewn swyddfa. Dros y blynyddoedd ry'n ni wedi cael tua hanner dwsin o achosion [yswirant] yn ein herbyn ni.

"Y peth pwysicaf i sicrhau bod dim cynsail i unrhyw claim ydy sicrhau bod y gwaith papur mewn lle fel cwmni."

Mae Guto yn cydnabod bod sefydlu gŵyl gerddorol yn mynd yn gynyddol anodd - ond mai nid rheolau llymach sy'n gyfrifol am hynny.

"Mae e'n farchnad eitha' saturated ar hyn o bryd - mae cystadleuaeth fawr o ran adnoddau a chynulleidfa.

"Pan o'n i'n blentyn oedd gen ti'r Steddfod, Reading a Glastonbury ond erbyn hyn mae gen ti wbeth bob penwythnos.

"Roedd noson yn Clwb yn ddiweddar efo firebreathers ac hyn llall ac arall - naetho ni ddim stopio nhw rhag defnyddio'r stwff ond roedd rhaid sicrhau bod ganddyn nhw hefyd y gwaith papur priodol.

"Dydy o ddim erbyn hyn yn fater o ddweud 'ie, ie, cer ar y llwyfan' - mae'n rhaid i ti fynd trwy'r holl broses ond mae'n rhaid i ti gael y pethau yma mewn lle achos mae straeon yn aml am rhyw glwb nos rhywle yn y byd lle mae rhywbeth ofnadwy wedi digwydd a cyn ti droi rownd mae 100 o bobl wedi marw. Felly y peth lleia' alli di wneud ydy dilyn canllawiau."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn: "Gan fod yr Ŵyl Gopr yn cael ei gynnal ar y stryd ym Mhorth Amlwch, roedd rhaid i'r trefnwyr gydymffurfio gyda Deddf Sŵn a Niwsans Statudol 1993 sy'n ymwneud a defnyddio uchelseinyddion mewn stryd.

"Oherwydd ein bod wedi derbyn cwynion am lefelau'r sŵn a bod yr ŵyl yn gor-redeg yr amser oedd wedi ei gytuno roedd yn rhaid i Adran Iechyd yr Amgylchedd osod cyfyngiad o 11.00yh ar y gweithgareddau.

"Er hynny, dydyn ni ddim yn teimlo bod y cyfyngiad yma wedi amharu'n ormodol ar boblogrwydd yr ŵyl, a hithau yn parhau i ddenu cannoedd o ymwelwyr o Gymru a thu hwnt y llynedd."