Pryder S4C am 'ansicrwydd ariannol'

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Ian Jones: 'Methu torri rhagor' ar S4C

Mae S4C yn wynebu cyfnod o 'ansicrwydd ariannol' yn ôl cadeirydd a phrif weithredwr y Sianel.

Roedd Huw Jones, cadeirydd S4C, ac Ian Jones, prif weithredwr y Sianel, yn rhoi tystiolaeth gerbron Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin ddydd Llun.

Mae S4C yn cael eu hariannu gan gyfuniad o ffi'r drwydded deledu, gyda swm llawer llai yn dod o'r Adran Ddiwylliant Chwaraeon a'r Celfyddydau.

Yn 2015 dywedodd S4C eu bod wedi cael gwybod y byddant yn gorfod gwneud arbedion o £1.7 miliwn erbyn 2020 o ganlyniad i Adolygiad Gwariant y Llywodraeth.

Byddai hynny'n golygu y byddai gwariant blynyddol yr Adran Ddiwylliant Chwaraeon a'r Celfyddydau yn cael ei dorri o £6.7m i £5m.

Ond cafodd y toriadau eu rhewi tra bod arolwg yn cael ei gynnal o'r modd y mae'r Sianel yn cael ei chyllido.

'Ni all hyn barhau'

Dywedodd Ian Jones, sydd wedi cyhoeddi y bydd yn gadael ei swydd fel prif weithredwr ar ôl yr arolwg, fod y Sianel wedi wynebu "toriadau ar ôl toriadau, ac na all hyn barhau".

Dywedodd AS Ceredigion, Mark Williams fod aelodau'r pwyllgor wedi ymweld ag S4C yn ddiweddar a'u bod yn credu fod y gwasanaeth yn cael ei redeg yn effeithiol a'i "bod yn anodd gweld lle bod modd gwneud mwy o doriadau".

Mae rhai yn amcangyfrif y gallai Adran Ddiwylliant San Steffan dorri £700,000 ar wariant ar S4C yn 2017/18.

Ond mae ansicrwydd ynglŷn â phryd yn union fydd hyn yn digwydd.

Image caption Bu rheolwyr y Sianel yn rhoi tystiolaeth gerbron aelodau seneddol ddydd Llun

Dywedodd Mr Ian Jones y byddai hynny'n cael effaith sylweddol ar S4C ac y byddai'n rhai torri popeth yn ôl i'r asgwrn.

Byddai'n rhaid, meddai, edrych ar leihau'r defnydd o isdeitlo.

Yn ôl Mr Jones roedd hi'n aneglur a fyddai S4C yn wynebu toriadau o £700,000 yn y flwyddyn ariannol 2017/18, neu a fyddai unrhyw doridau yn gorfod aros tan fod yr arolwg ariannol wedi ei gwblhau.

Dywedodd Huw Hones, Caerdiydd S4C, ei fod o'n gobeithio y byddai'r arolwg ddim yn cymryd mwy na chwe mis i'w gwblhau.

Gwahanol blatfformau

Yn ôl Ian Jones, yr unig fodd i S4C allu goroesi yn y dyfodol yw ei bod yn gallu cynnig gwasanethau ar wahanol blatfformiau.

"Mae'n rhaid bod y cynnwys ar gael - a bod cynulleidfaoedd yn gallu ei gael pryd a lle maen nhw moyn."

Ychwanegodd fod y BBC a Channel 4 wedi gallu cynnig gwasanaethau newydd a hynny drwy dargedu cynulleidfaoedd penodol.

Dyw S4C, meddai, heb fod yn gallu gwneud hyn ohewydd diffyg cyllid.

"Rydym angen sicrhau nad yw S4C yn dod yn wasanaeth ail ddosbarth... ydw i'n credu bod yna ddigon o gyllid i wneud hynny nawr? Na, dwi ddim," meddai.

Cafodd y ddau hefyd eu holi am fwriad S4C i symud eu pencadlys i Gaerfyrddin.

Clywodd y pwyllgor fod y cynlluniau yn mynd yn eu blaen yn ôl y disgwyl, ac mai'r bwriad yw i ail-leoli yn raddol ar ôl Pasg y flwyddyn nesaf.