Colegau'n prynu cwmnïau sy'n darparu hyfforddiant

coleg caerdydd
Image caption Mae Coleg Caerdydd a'r Fro eisoes wedi cymryd cyfrifoldeb dros fusnes ACT

Mae nifer o golegau yn bwriadu prynu cwmnïau sy'n darparu hyfforddiant yn y dyfodol agos, yn ôl arbenigwyr.

Daw hyn ar ôl i Goleg Caerdydd a'r Fro gymryd cyfrifoldeb dros fusnes hyfforddi mwyaf y wlad, ACT.

Fe allai arwain at newid mawr yn narpariaeth prentisiaethau a sgiliau galwedigaethol.

Yn ôl Frank Holmes o gwmni Gambit Corporate Finance, un o'r unigolion drefnodd y cytundeb, mae e eisoes mewn trafodaethau gyda cholegau eraill sy'n bwriadu gweithredu cytundebau tebyg.

Gorau o'r ddau fyd?

Cafodd ACT ei sefydlu yn 1988, ac mae'r cwmni wedi ehangu o gyflogi wyth person bryd hynny i tua 350 erbyn hyn.

Roedd 'na gynnydd mawr yn y galw am wasanaethau cwmnïau tebyg yn ystod y dirwasgiad, ac fe wnaeth Llywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd fuddsoddi symiau mawr yn y sector hyfforddi mewn ymgais i ddiogelu swyddi.

Mae pwy sy'n paratoi gweithwyr orau ar gyfer y byd gwaith - cwmnïau preifat neu golegau - yn drafodaeth gyson ar draws diwydiannau Cymru.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Geraint Thomas yn holi Robin Hughes, ymgynghorydd addysg

Yn ôl rheolwr gyfarwyddwr ACT, Andrew Cooksley, fe fydd y cysylltiad gyda Choleg Caerdydd a'r Fro yn golygu bod myfyrwyr yn cael y gorau o ddau fyd.

Mae'n rhaid i gwmnïau sy'n darparu hyfforddiant gystadlu am gytundebau Llywodraeth Cymru, sy'n golygu y byddai gwerth ACT yn lleihau'n sylweddol pe bai'r cwmni yn aflwyddiannus yn y dyfodol.

Dywedodd Mr Cooksley bod rhaid iddyn nhw sicrhau na fydd hynny'n digwydd drwy barhau i roi gwerth am arian.

Image caption Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu 100,000 o brentisiaid newydd erbyn 2021

Mae'r bartneriaeth yn golygu bod Coleg Caerdydd a'r Fro yn un o'r pum coleg mwyaf yn y Deyrnas Unedig bellach, gydag incwm o £75m y flwyddyn a 30,000 o fyfyrwyr newydd ar y gofrestr pob blwyddyn.

Fe fydd ACT yn parhau i weithredu fel corff ar wahân a dydi gwerth y cytundeb heb ei ddatgelu.

Yn ôl prif weithredwr Coleg Caerdydd a'r Fro, Michael James, cafodd y cynllun ei gyllido gan fentrau masnachol a benthyciadau banc yn hytrach nag arian cyhoeddus.

Dywedodd bod y cytundeb yn "feiddgar" ond mynnodd bydd y cynllun yn talu am ei hun o fewn ychydig flynyddoedd ac yn caniatáu iddyn nhw fuddsoddi mewn staff a myfyrwyr.

100,000 o brentisiaid

Mae'n gyfnod ansicr i'r sector. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu 100,000 o brentisiaid newydd erbyn 2021 ac mae Cymru ar ei hôl hi o'i gymharu â gweddill y DU.

Er hynny, daw mwyafrif o fuddsoddiad y diwydiant o'r Undeb Ewropeaidd, felly dyw hi ddim yn glir beth fydd yn digwydd unwaith mae'r DU yn gadael yr UE.

Mae'r ardoll brentisiaethau, treth ar fusnesau mawr i gael ei wario ar hyfforddiant, yn cael ei gyflwyno gan weinidogion Llywodraeth Prydain, a thra bydd Cymru yn derbyn cyfran o'r arian, dydy Llywodraeth Cymru heb ymrwymo i'w wario ar sgiliau.

Yn ôl Frank Holmes, mae colegau wedi bod yn prynu cwmnïau sy'n darparu hyfforddiant yn Lloegr ers pum mlynedd.

Mae'n dweud bod trafodaethau ar hyd a lled Cymru wrth i ddarparwyr addysg geisio sicrhau eu dyfodol a gwella'r hyn maen nhw'n ei gynnig mewn sector sy'n newid.