Brexit: ASau yn pleidleisio o blaid dechrau'r broses

ty cyffredin
Image caption Fe bleidleisiodd mwyafrif o 384 o ASau o blaid tanio proses Erthygl 50

Mae Aelodau Seneddol wedi pleidleisio o 498 i 114 i ddechrau'r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Fe wnaeth mwyafrif o ASau Cymru gefnogi'r mesur fydd yn caniatáu tanio Erthygl 50 - ond gwrthododd saith o ASau Llafur Cymru â dilyn gorchymyn eu harweinydd i gefnogi'r llywodraeth.

Roedd yr arweinydd, Jeremy Corbyn, wedi dweud wrth ASau Llafur i bleidleisio o blaid y mesur.

Ond fe wnaeth Chris Bryant, Kevin Brennan, Madeline Moon, Jo Stevens, Stephen Doughty, Owen Smith ac Ann Clwyd wrthwynebu'r chwip.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Pleidlais Brexit: Dadansoddiad Elliw Gwawr

Roedd dau o ASau Plaid Cymru - Liz Saville-Roberts a Hywel Williams - a'r Democratiaid Rhyddfrydol, Mark Williams hefyd wedi pleidleisio yn erbyn y mesur.

Fe bleidleisiodd cyfanswm o 47 AS Llafur yn erbyn y mesur, yn ogystal â 50 o aelodau'r SNP - ac un Ceidwadwr, Ken Clarke.

Ond gyda mwyafrif o 384 o blaid, fe fydd y mesur nawr yn symud ymlaen at y cam nesaf.

Ymddiswyddiad

Dywedodd Mr Smith, AS Pontypridd oedd o blaid aros yn yr UE: "O ran y bleidlais, fe fydd hanes yn dangos ein bod yn y lle anghywir."

Ond dywedodd AS Ynys Môn, Albert Owen fod yn rhaid i Aelodau Seneddol barchu canlyniad y refferendwm, rhywbeth yr oedd Mr Corbyn hefyd wedi ei ddweud.

Fe wnaeth penderfyniad Mr Corbyn arwain at ymddiswyddiad Jo Stevens fel llefarydd y blaid ar Gymru.

Bydd y mesur nawr yn mynd gerbron pwyllgor yn Nhŷ'r Cyffredin, ble mae disgwyl i ASau geisio cynnig cyfres o welliannau iddi.

Image caption Dywed Owen Smith nad yw wedi gwrthwynebu'r chwip Llafur o'r blaen

Dywedodd Mr Smith fod ei benderfyniad i bleidleisio yn erbyn y blaid yn rhywbeth mawr iddo, gan nad oedd erioed wedi gwrthwynebu'r chwip o'r blaen.

Dywedodd Mr Owen bod rhaid parchu canlyniad y bleidlais a bod bobl am adael yr Undeb Ewropeaidd: "Fe wnaeth 17m bleidleisio i adael.

"Dim dyma beth oeddwn am weld, ond dyna beth sy'n rhaid i mi ei barchu a'i dderbyn."

Cyn y ddadl roedd Ms Moon wedi dweud na allai hi bleidleisio dros broses "sydd ddim yn rhoi unrhyw sicrwydd i bobl Pen-y-bont o ddyfodol diogel iddyn nhw a'u plant".

Image caption Roedd AS Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville-Roberts ymysg y rheiny wrthododd gefnogi'r mesur

Fe gyfaddefodd Mr Bryant ei fod yn pleidleisio "ar ran lleiafrif" o'i etholwyr yn y Rhondda, a ddewisiodd i adael yr UE, ond ei fod yn gwneud hynny am y byddai Brexit yn gadael y wlad yn "dlotach a gwanach".

Ond mynnodd AS Ceidwadol Gorllewin Clwyd, David Jones mai pleidlais i ddechrau'r broses oedd hon yn hytrach na mynegi barn ar ganlyniad y refferendwm neu fanylion eraill.

Ac fe alwodd y Ceiwdadwr David Davies ar ASau i beidio â gwrthwynebu'r brose mwyach a "dod yn rhan o beth sy'n digwydd nawr".

Dywedodd arweinydd grŵp Plaid Cymru, Hywel Williams fodd bynnag na fyddai ei blaid yn cymeradwyo "fersiwn eithafol y Torïaid o Brexit", ac y bydden nhw'n gwrthwynebu'r mesur oni bai bod sicrwydd y gallai'r DU barhau i fasnachu'n rhydd ag Ewrop.