Llaeth y Cardi

llaeth

Roedd hi'n olygfa gyffredin ar nifer o ffyrdd gwledig Cymru ar un adeg.

Roedd rhai o'r stondinau llaeth yn amlwg a chadarn, a rhai eraill yn fwy diymhongar yn cael eu gwarchod gan un darn o lechen ar y top.

Rhywun sydd wedi bod yn cofnodi stondinau llaeth Ceredigion yw Dr Roger Owen, sy'n ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Fel mab fferm, bu'n egluro wrth Cymru Fyw pam ei bod hi'n bwysig i gofnodi y mannau daearyddol sydd dal i'w gweld dros Gymru.


Fe ddechreuais i drafod y pwnc cwpl o flynyddoedd yn ôl mewn grŵp diwylliant yn Felinfach ger Aberaeron. Roedden ni'n trafod pethe oedd yn marcio diwylliant cefn gwlad fel rhywbeth neilltuol. Un o'r pethe hynny oedd y stondinau llaeth, sy'n debyg i lwyfanau bach ar ochr y rhewl.

Roedden ni'n meddwl sut alle ni ddefnyddio nhw ar gyfer gwneud rhywbeth, ond hefyd roedden ni'n trafod y ffaith eu bod nhw'n olion treftadaeth mewn ffordd, nad yw pawb yn eu cydnabod gan eu bod yn dreftadaeth go ddiweddar.

Image caption Berth Rhys, Blaenplwyf

Rwy'n credu roedd y stondinau yma'n cael eu defnyddio ar draws y DU rhwng y 1930au a'r 1970au. Fe gawson nhw eu creu yn y lle cynta' fel ffordd o hwyluso casglu llaeth pan gafodd y Bwrdd Marchnata Llaeth ei sefydlu yn y 1930au. Roedd yn rhaid i ffermwyr werthu llaeth yn breifat cyn hynny.

Erbyn y 1960au roedd tanceri llath yn dechrau cael eu ddefnyddio, ac roedd hynny yn cael ei weld fel ffordd mwy effeithlon a rhatach o godi y llaeth o'r ffermydd, felly daeth y busnes o godi mewn caniau llaeth i ben yn swyddogol yn 1977.

Image caption Stondin laeth fferm Tregynan Isaf o flaen y wal eiconig ger Llanrhystud

Dwi'n cofio'r stondin laeth oedd 'da ni a rhai y ffermydd cyfagos. O ganlyniad i hyn daeth y diddordeb i drio mapio y stondinau yng Ngheredigion.

Ro'n i'n 10 oed pan roedd rhaid i ni ymestyn y bwlch oedd gennyn ni rhwng clos y fferm a'r hewl, er mwyn i'r tancer llaeth fedru dod i mewn. Bryd hynny ro'dd yn rhaid i ni fwrw'r stondin laeth lawr.

Trysorau ynte' sbwriel?

Felly mae'r cwestiwn yn codi a yw pobl yn meddwl amdanyn nhw fel trysorau diwylliannol, neu fel sbwriel ar ochr yr hewl?

Dwi wedi dogfennu tua chwarter Ceredigion. Dwi wedi mapio y rhai ro'n i'n gallu eu ffeindio ar ochr orllewinol yr hewl fawr rhwng Aberteifi ac Aberystwyth. O bryd i'w gilydd maen nhw reit ar yr arfordir felly does dim llawer yna i'w cyfri.

Image caption Hen stondin laeth fferm enwog Y Cilie, Cwmtydu

Ond unwaith ewch chi lawr at Cei Newydd ac Aberteifi mae cryn dipyn o dir rhwng yr hewl fawr a'r arfordir. Mae tua 220 o stondinau ar y ffordd hon, a dwi wedi cofnodi nifer ohonyn nhw hefyd ger Llanybydder. Dwi'n amcangyfri' bod tua 800 gant o stondinau llath yng Ngheredigion gyfan.

Calon y gymdeithas

Mae eu cyflwr nhw heddiw yn amrywio. Mae rhai wedi eu cadw yn gydwybodol iawn gan bobl sydd yn ffermio, ac mae rhai wedi eu haddurno, eu gwyngalchu neu yn dal arwydd gyda enw y fferm arno. Mae 'na un ysblenydd iawn ar bwys maes carafanau ger Pontgarreg 'da'r Ddraig Goch arni.

Image caption Nantymawr, Penmorfa

Mae 'na rai gyda arad neu ryw offeryn neu flodau wedi'u gosod arnyn nhw, ac wrth gwrs mae rhai ble mae bobl wedi gosod caniau llaeth arnyn nhw er mwyn rhoi syniad o'r traddodiad.

Mae eraill yn cael eu defnyddio i ddal biniau neu wedi llwyr ddiflannu, ac mae rhai sydd wedi eu cuddio wrth i'r clawdd dyfu drostynt.

Fy ngobaith yw dogfennu cymaint o stondinau â sydd bosib am eu bod yn dangos faint o bobl oedd wrthi tua hanner can mlynedd yn ôl yn cynhyrchu llaeth, achos roedd cymaint o ffermydd bach yn y diwydiant.

Image caption Stondin laeth Glyn Coch Isaf, Pentre-Gât

Mae'r stondinau'n atgof o'r rhwydweithau cymdeithasol oedd i'w cael ar y pryd rhwng y pobl oedd yn ymgymryd a'r diwydiant ar lefel fach, ac yn tystio i'r ffaith bod natur y gymdeithas wedi newid dros y blynyddoedd, nid yn unig natur ffermio.

Falle bod gan hynny rywbeth i'w ddweud yn erbyn y duedd gyfoes gyson i fynd yn dechnolegol, effeithiol ac yn fwy, fel rhyw ffatrioedd i gynhyrchu llaeth.

Erbyn hyn gan fod yna gymaint yn llai o ffermydd mae'r gymdeithas wedi gorfod addasu a rhwydweithio o gwmpas canolbwynt arall.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Geraint Lloyd yn cael hanes map Roger Owen o 220 o stondinau llaeth yng Ngheredigion