Abertawe 2-1 Southampton

Abertawe Southampton Image copyright Reuters
Image caption Roedd perfformiad Gylfi Sigurdsson yn allweddol yn y fuddugoliaeth

Roedd yna hwb i obeithion Abertawe o aros yn Uwch Gynghrair Lloegr wedi iddyn nhw sicrhau'r ail fuddugoliaeth o'r bron, a hynny gartref yn erbyn Southampton.

Dechrau araf gafodd y tîm cartref yn y Liberty ond fe gyflymodd y gêm pan beniodd Alfie Mawson y bêl i'r rhwyd, er i Oriol Romeu o'r Seintiau gyffwrdd â hi ar ei thaith.

Fe ddaeth Southampton yn ôl yn gyfartal yn gynnar yn yr ail hanner gyda gôl gan Shane Long.

Ond ar ôl helpu i greu gôl gynta'r Elyrch, fe sgoriodd Gylfi Sigurdsson wedi 70 munud a sicrhau buddugoliaeth werthfawr.

Mae Abertawe'n aros yn yr 17eg safle ar noson pan y llwyddodd Crystal Palace - sydd hefyd yn brwydro i aros yn yr Uwch-gynghrair - i sicrhau tri phwynt pwysig hefyd.