Paul John yn gadael y Gleision i fynd i Hong Kong

Paul John Image copyright Huw Evans Agency
Image caption Fe wnaeth Paul John ennill 10 cap i Gymru rhwng 1994-98

Mae'r Gleision wedi cadarnhau fod cyn fewnwr Cymru Paul John wedi gadael ei swydd fel dirprwy hyfforddwr y clwb ar ôl cael ei benodi yn rheolwr tîm saith bob ochr yr Hong Kong Sevens.

Bydd John hefyd yn gweithio i sefydliad chwaraeon y wlad, ac yn gyfrifol am dîm saith bob ochr y merched a'r tîm ieuenctid.

Bydd John yn olynu'r Cymro Gareth Baber yn y swydd o fod yn rheolwr Hong Kong.

Mae Baber nawr yn gyfrifol am dîm saith bob ochr Fiji ar ôl ymadawiad eu rheolwr Ben Ryan.

Yn ddiweddar fe gafodd Ryan ei benodi fel ymgynghorydd gydag Undeb Rygbi Cymru.