Pum newid i Gymru yn erbyn Yr Eidal yn y Chwe Gwlad

Webb
Image caption Mae Webb wedi ei ddewis i ddechrau wrth ochr Dan Biggar i Gymru

Bydd Rhys Webb yn dychwelyd i dîm Cymru i wynebu'r Eidal ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sul, wrth i Rob Howley wneud pum newid i'r tîm gurodd De Affrica yn yr hydref.

Mae'r mewnwr wedi ei ddewis yn ogystal â'i gyd-chwaraewr i'r Gweilch, y maswr Dan Biggar.

Mae'r prop Nicky Smith wedi ei ddewis o flaen Rob Evans yn y rheng flaen, a Jake Ball fydd yn yr ail reng wedi anaf i Luke Charteris.

Ross Moriarty sy'n dechrau fel yr wythwyr, gyda Taulupe Faletau wedi ei adael allan o'r garfan oherwydd anaf.

Mae Sam Warburton yn cadw ei le yn y tîm, ond yn symud i ochr dywyll y rheng ôl, gyda Justin Tipuric yn cael y crys rhif saith.

Mae canolwyr y Scarlets, Scott Williams a Jonathan Davies, wedi eu dewis o flaen Jamie Roberts.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Cennydd Davies yn dadansoddi'r dewis

'Tîm profiadol'

Dywedodd hyfforddwr dros dro Cymru, Rob Howley: "Rydw i'n falch iawn o ddewis tîm profiadol a rhoi croeso'n ôl i bum chwaraewr wnaeth fethu allan yn erbyn De Affrica yn yr Hydref.

"Mae 'na lot o egni a brwdfrydedd wedi bod dros y pythefnos diwethaf ac rydyn ni wedi cyffroi cyn dydd Sul."

Bydd Cymru yn chwarae'r Eidal yn y Stadio Olimpico yn Rhufain am 14:00 ar 5 Chwefror.

Gallwch ddilyn y gêm ar lif byw arbennig Cymru Fyw o 13:30.

Image copyright Getty Images

Tîm Cymru:

Leigh Halfpenny; George North, Jonathan Davies, Scott Williams, Liam Williams; Dan Biggar, Rhys Webb; Nicky Smith, Ken Owens, Samson Lee, Jake Ball, Alun Wyn Jones (c), Sam Warburton, Justin Tipuric, Ross Moriarty.

Eilyddion: Scott Baldwin, Rob Evans, Tomas Francis, Cory Hill, James King, Gareth Davies, Sam Davies, Jamie Roberts.

Tîm Yr Eidal:

Edoardo Padovani; Giulio Bisegni, Tommaso Benvenuti, Luke McLean, Giovanbattista Venditti; Carlo Canna, Edoardo Gori; Andrea Lovotti, Ornel Gega, Lorenzo Cittadini, Marco Fuser, George Biagi, Abraham Steyn, Maxime Mata Mbanda, Sergio Parisse (c).

Eilyddion: Leonardo Ghiraldini, Sami Panico, Pietro Ceccarelli, Joshua Furno, Francesco Minto, Giorgio Bronzini, Tommaso Allan, Michele Campagnaro.