Cyhoeddi manylion cyfarfodydd gweinidogion Llywodraeth

Carwyn Jones
Image caption Mae Carwyn Jones wedi cytuno i gyhoeddi dyddiaduron ei weinidogion

Bydd manylion ynglŷn â chyfarfodydd gweinidogion Llywodraeth Cymru yn cael eu cyhoeddi nes ymlaen eleni.

Dywedodd y llywodraeth bod y dyddiaduron gweinidogol yn cael eu cyhoeddi - rhywbeth sydd eisoes yn digwydd yn San Steffan - er mwyn hybu tryloywder.

Mae'r Ceidwadwyr wedi dweud bod gweinidogion ond wedi dod i'r penderfyniad ar ôl iddyn nhw "weiddi a strancio" am y mater, tra bod Plaid Cymru wedi canmol y penderfyniad fel buddugoliaeth i lywodraeth agored.

Dywedodd grŵp ymgyrchu Unlock Democracy y dylai'r wybodaeth fod yn "arwyddocaol" fel bod modd craffu ar unrhyw benderfyniadau.

Lobïwyr

Mae galwadau wedi eu gwneud sawl tro yn y gorffennol ar i'r llywodraeth gyhoeddi manylion cyfarfodydd â lobïwyr - sefydliadau neu unigolion sydd yn ceisio dylanwadu ar bolisïau'r llywodraeth.

Mae disgwyl i'r manylion gael eu cyhoeddi bob tri mis, gan ddechrau ym mis Mawrth, a nodi enw'r gweinidog, dyddiad a ffurf y cyfarfod, ac enw'r unigolyn neu'r sefydliad oedd yn y cyfarfod.

Ar hyn o bryd, mae pwyllgor safonau'r Cynulliad yn cynnal ymchwiliad i ystyried a oes angen rheolau llymach ar lobïwyr yng Nghymru.

Dywedodd gweinidog busnes Llywodraeth Cymru, Jane Hutt, fodd bynnag nad yw gweinidogion fyth yn cyfarfod â lobïwyr masnachol.

Creu cofrestr?

Cafwyd croeso i'r penderfyniad gan Unlock Democracy ond fe ddywedodd llefarydd ar ran y grŵp, Alexandra Runswick bod angen cyhoeddi hefyd manylion y polisïau oedd yn cael eu trafod, yn ogystal â sefydlu cofrestr o lobïwyr.

"Rydyn ni'n gwybod eisoes o fesurau cyhoeddi dyddiaduron yn San Steffan a Holyrood bod y cam yma'n gallu creu'r ddelwedd o dryloywder pan mai ychydig sydd yn bodoli mewn gwirionedd," meddai.

Dywedodd AC Plaid Cymru, Neil McEvoy y byddai'r cyhoedd "o'r diwedd yn gallu gweld pwy mae eu gweinidogion llywodraeth yn ei gyfarfod".

Ychwanegodd llefarydd ar ran UKIP eu bod yn "synnu ei bod hi wedi cymryd mor hir i Lywodraeth Cymru weithredu" rhywbeth sydd eisoes yn digwydd yn San Steffan.