Trysori'r atgofion

"Weithiau roedd hi'n anghofio pwy oedd yr un bach oedd yn syllu i fyw ei lygaid yn y llun." Image copyright Nia Davies
Image caption "Weithiau roedd hi'n anghofio pwy oedd yr un bach oedd yn syllu i fyw ei lygaid yn y llun."

Mae ymweld â pherthynas sy'n dioddef o ddementia yn gallu bod yn brofiad go anobeithiol ar adegau. Ond yng nghanol yr holl ddryswch, efallai mai cwmnïaeth plentyn sy'n cynnig y cysur pennaf. Nia Davies sy'n son am brofiad ei theulu hi.


Henaint, ni ddaw ei hunan...

Mae pentyrrau o luniau'n pylu yn y parlwr yn nhŷ mam-gu a tad-cu. Gwerth degawdau o atgofion.

Ar gefn pob llun mae mam-gu wedi ysgrifennu'r manylion i gyd - enwau, lleoliadau, dyddiadau.

Mae holl achlysuron hapusaf ei bywyd wedi eu cofnodi mewn inc yn drwyadl ac yn daclus.

Fy hoff lun i yw'r un yma (uchod). Ar y cefn mewn ysgrifen sigledig mae enw fy mab wedi ei nodi ochr yn ochr â'r enw 'mamgu'. A'r dyddiad yw 26 Mai 2013.

Hyd yn oed bryd hynny, roedd ei chof wedi dechrau chwarae triciau ar mam-gu. "Henaint, ni ddaw ei hunan!" byddai'n dweud gyda gwên.

Cysylltiad dwys ac unigryw

Rhai misoedd yn ddiweddarach, aeth mam-gu i fyw mewn cartref gofal. Weithiau roedd hi'n anghofio ble'r oedd hi. Weithiau'n anghofio pwy oeddem ni ac weithiau'n anghofio pwy oedd yr un bach oedd yn syllu i fyw ei llygaid yn y llun.

Serch hynny, am gyfnod roedd 'na gysylltiad dwys ac unigryw rhwng y ddau. Y naill ar drothwy ei blentyndod - a'r llall yn ail-fyw ei un hi.

Roedd yr un bach yn medru cyfathrebu gyda hi heb embaras a heb ragfarn mewn ffordd na allem ni, yr oedolion call, aeddfed.

Yn hollol ddedwydd yng nghwmni ei gilydd, byddai'r ddau yn magu tedis, yn curo dwylo, yn chwarae pi-po, yn darllen llyfrau clawr caled ac yn ailadrodd rhigymau dro ar ôl tro, ar ôl tro….yn ddi-syrffed. Rhannu edrychiad, rhannu gwên. Cyd-chwarae. Cydnabod.

Codi calon a chysuro

Ar ôl y dryswch di-dostur daeth llonyddwch o'r diwedd. Cysgu mae mam-gu y rhan fwyaf o'r amser nawr.

'Does dim cydnabod rhagor. 'Does dim llawer i ddiddori'r un bach mwyach. Ond, mae e dal yn dod gyda ni i ymweld â'i fam-gu.

Wedi'r cyfan, mae coridorau hir yr hen adeilad yn ddelfrydol ar gyfer un sydd â'i fryd ar ruthro o gwmpas ar ei sgwter mor gyflym ag sy'n bosib. Jiawch, byddai mam-gu wrth ei bodd yn ei weld yn gwibio heibio! Ac mae'n codi calon tad-cu, wrth gwrs.

Oes bosib ei bod hi hefyd yn gallu clywed ei chwerthiniad braf? Ydy'r sŵn cyfarwydd yn cyffwrdd ei chalon, sgwn i?

Oes bosib ei bod hi'n teimlo'i gusan dyner ar ei thalcen wrth ffarwelio? Ac mae'n derbyn rhywfaint o gysur - am ennyd o leiaf. On'd yw hi?

A'n cysur ni yng nghanol y tristwch? Y llun hwnnw o mam-gu gyda'i hŵyr bach olaf. A'r pentyrrau o luniau eraill yn y parlwr - gan wybod y bydd atgofion gwerthfawr mam-gu yn cael eu trysori eto gan y genhedlaeth nesaf.

Image copyright Nia Davies
Image caption Yn hollol dedwydd yng nghwmni ei gilydd

Gwyliwch nawr: Beti and David: Lost for Words. Mewn rhaglen deledu arbennig, mae'r gyflwynwraig Beti George yn trafod ei phrofiad o ofalu ar ôl ei phartner David Parry Jones ers iddo gael diagnosis clefyd Alzheimer wyth mlynedd yn ôl.

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC