Peirianwyr yn asesu'r difrod i bier Bae Colwyn

Pier Image copyright Terry Westwood
Image caption Disgynnodd rhan o ben y pier i'r môr ddydd Mercher

Mae'r gwaith o asesu'r difrod i bier Bae Colwyn wedi dechrau.

Fe ddisgynodd rhan o'r pier i'r môr ddydd Mercher, ond mae'r pier ei hun wedi bod ar gau ers peth amser am fod ei gyflwr yn dirywio.

Mae Cyngor Conwy, sy'n berchen ar y strwythur Fictoraidd, wedi dweud eu bod yn ymwybodol o gyflwr y safle "ac wedi bod yn eglur iawn am gyflwr y pier sy'n gwaethygu".

Image caption Mae ardal waharddiedig o amgylch y pier

Dywedodd Ymgyrch Ymddiriedolaeth Fictoraidd Colwyn, sydd wedi ei sefydlu i ailddatblygu'r pier, eu bod wedi rhybuddio am beryglon rhannau o'r pier yn disgyn ers nifer o flynyddoedd.

Mewn datganiad ar eu tudalen Facebook, dywedodd yr ymgyrchwyr: "Wel dyna i chi ddiwrnod mae'r pier wedi ei gael. Mor drist i'w gweld wedi torri.

"Mae hanner y gwaith pren ar lawr ar y pen oedd wedi pydru wedi disgyn i'r môr gan fynd a'r canllaw gydag o.

"Ond ar yr ochr bositif mae'r pyst haearn yn dal i sefyll yn gadarn o'r hyn y gallwn ei weld."

Image copyright STEVEN THOMAS/ROBY AERIAL