Abertawe wedi ceisio arwyddo Frank Lampard

Frank Lampard Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Fe chwaraeodd Frank Lampard naw gêm dros Abertawe yn nhymor 1995/96

Mae prif hyfforddwr Abertawe, Paul Clement wedi datgelu iddo geisio arwyddo Frank Lampard fis diwethaf.

Cyhoeddodd Lampard ddydd Iau ei fod yn ymddeol o chwarae pêl-droed proffesiynol, a hynny yn 38 oed.

Enillodd dros 100 o gapiau dros Loegr yn ystod ei yrfa, ac er mai gyda West Ham ac yna Chelsea y gwnaeth ei enw, fe dreuliodd gyfnod byr ar fenthyg gydag Abertawe yn ei arddegau.

"Fe gawson ni sgwrs," meddai Clement, oedd yn hyfforddwr ar y chwaraewr canol cae pan oedd y ddau yn Chelsea.

"Dwi'n meddwl ei fod e wedi gwerthfawrogi mod i wedi galw, oherwydd ein perthynas. Dwi ddim yn dweud ei fod wedi dod yn agos, ond fe gawson ni sgwrs."

Ychwanegodd y byddai Lampard wedi bod yn "arweinydd da iawn" yn stafell newid yr Elyrch.

"Ond fe gawson ni Tom Carroll yn lle hynny - felly dwi'n hapus iawn," meddai.