David Davis: 'Ystyried Cymru o ddifrif' wrth drafod Brexit

David Davis
Image caption Dywedodd David Davis wrth Dŷ'r Cyffredin nad oedd am i unrhyw ran o'r DU fod ar ei cholled

Mae'r Ysgrifennydd Brexit wedi dweud wrth ASau bod Llywodraeth y DU yn "ystyried buddiannau Cymru o ddifrif" wrth baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd David Davis mai sicrhau nad yw unrhyw ran o'r DU ar ei cholled yw bwriad trafodaethau Brexit.

Roedd Mr Davis yn siarad yn Nhŷ'r Cyffredin wrth i'r llywodraeth gyhoeddi papur gwyn ar Brexit, fydd yn amlinellu'r strategaeth wrth adael yr UE.

Gofynnodd AS Ceidwadol Sir Drefaldwyn, Glyn Davies, os allai'r ysgrifennydd gadarnhau y byddai Cymru'n rhan o bob trafodaeth o hyn ymlaen.

Dywedodd Mr Davis: "Rydyn ni wedi cael nifer o gyfarfodydd o'r cyd-bwyllgor gweinidogion, dau dan arweiniad y prif weinidog, a thri dan fy arweiniad i.

"Rydyn ni wedi bod i Gymru i weld Llywodraeth Cymru a thrafod rhai o'r materion yma."

'Amddiffyn swyddi'

Dywedodd y byddai un o weinidogion adran Brexit, David Jones, yn cyfarfod gyda'r pwyllgor materion Cymreig yn fuan, gan ychwanegu: "Rydyn ni'n ystyried buddiannau Cymru o ddifrif a byddwn yn gweithredu'r trafodaethau yma fel nad oes unrhyw ran o'r DU yn methu allan. Dyna'r bwriad."

Gofynnodd AS Llafur, Madeleine Moon i Mr Davis sicrhau y byddai mynediad heb dariffau i farchnadoedd Ewrop i weithwyr mewn ffatrïoedd ceir a dur yn ne Cymru.

Atebodd: "Mae pob rheswm i ddisgwyl y gallwn ni lwyddo yn yr hyn yr ydyn ni'n bwriadu ei wneud sef amddiffyn swyddi ei hetholwyr."

Image caption Theresa May yn cyrraedd y cyfarfod o arweinwyr llywodraethau'r DU yng Nghaerdydd fore Llun

Llywodraeth Cymru

Wrth ymateb i'r papur gwyn, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Roedd y Prif Weinidog a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Brexit gyda ni yng Nghaerdydd ddydd Llun i drafod llawer o'r materion hyn, ac felly mae'n hynod siomedig nad oedd Llywodraeth y DU wedi rhannu'r ddogfen gyda ni cyn ei chyhoeddi.

"Bydd angen mwy o amser i asesu'r papur gwyn yn fwy gofalus cyn ymrwymo'n llawn. Ond fe fyddwn yn dweud ein bod yn croesawu'r ffaith fod Llywodraeth y DU wedi dechrau adlewyrchu ar rai o'r negeseuon yn ein papur gwyn ein hunain, Sicrhau Dyfodol Cymru.

"Mae'n drawiadol fod y pwyslais, hanner ffordd drwy'r ddogfen, yn symud i ymateb i'r materion economaidd fydd yn wynebu'r DU yn dilyn Brexit. Mae hyn yn gyferbyniad trawiadol i'n papur gwyn ein hunain ac mae'n cryfhau ein safbwynt mai blaenoriaeth fwyaf y DU yw sicrhau mynediad llawn a dilyffethair i'r Farchnad Sengl.

"Rydym yn croesawu'n ofalus y sicrwydd na fydd Llywodraeth y DU yn 'cipio tir' o ran grymoedd sydd wedi eu datganoli, ond rydym yn credu fod y ddogfen yn adlewyrchu diffyg dealltwriaeth o sail gyfreithiol a chyfansoddiadol y setliad datganoli. Ac rydym yn parhau i aros i gael ein darbwyllo fod y neges am ddatganoli'n gyntaf yn cyrraedd pawb yn San Steffan.

"Ar wariant a grymoedd fe fyddwn yn chwilio am sicrwydd mwy eglur yng nghyfarfod nesaf y cydbwyllgor gweinidogion."

Dadansoddiad Bethan Lewis, gohebydd gwleidyddol BBC Cymru, o'r papur gwyn:

Mae'r Prif Weinidog Theresa May eisoes wedi datgan ei gweledigaeth mewn araith, ond nawr mae wedi ei gyhoeddi ar ddu a gwyn.

Daeth y Llywodraeth dan bwysau gan rai o'i haelodau seneddol ei hun i roi mwy o gig ar yr asgwrn. A dyna fwriad y papur gwyn yma.

Mae'n rhoi mwy o fanylion am 12 egwyddor sy'n ganolog i strategaeth Prydain wrth adael yr Undeb Ewropeaidd.

Yn eu plith mae cryfhau'r Deyrnas Gyfunol a sicrhau bargen sy'n gweithio i bob rhan ohoni.

Mae 'na addewidion i sicrhau bod barn Gweinidogion Cymru'n cael eu clywed, a datganiadau sy'n trio tawelu eu meddyliau ynglŷn â rhai meysydd allweddol - dyfodol ariannu prosiectau Ewropeaidd a thaliadau i ffermwyr.

Ac mae'n pwysleisio eto na fydd pwerau sy' wedi eu datganoli ar hyn o bryd yn cael eu tynnu'n ôl i Lundain o ganlyniad i Brexit.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru eu papur gwyn eu hunain wythnos diwethaf. Ar berthynas Prydain gyda'r farchnad sengl ac ar fewnfudo, mae 'na bellter sylweddol rhwng llywodraethau Prydain a Chymru.

Bydd y ddogfen yma'n sail i fisoedd o drafod - ond mae yna gwestiynau di-ri yn parhau.

Straeon perthnasol