Dod o hyd i gorff dynes mewn cronfa ddŵr ger Casnewydd

Gweddillion

Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau mai corff dynes gafodd ei ddarganfod mewn cronfa ddŵr ger Casnewydd ddydd Iau.

Bu'r heddlu yn ymchwilio ddydd Iau wedi i aelod o'r cyhoedd ddweud eu bod wedi darganfod gweddillion dynol.

Mae swyddogion nawr yn gweithio i adnabod y corff.

Mae 'na "bosibilrwydd" mai corff Sandie Bowen, gafodd ei llofruddio gan ei gŵr yn 1997, sydd wedi ei ganfod, ac fe ddywedodd merch Mrs Bowen, Anita Giles, fod yr heddlu wedi cysylltu gyda hi.

Fe wnaeth Mike Bowen gyfaddef lladd ei wraig yn 2003, ond fe wrthododd â dweud wrth yr heddlu lle'r oedd wedi cuddio ei chorff.

Straeon perthnasol