6 Gwlad: Pwyntiau bonws, rheolau taclo, a thaith y Llewod

Chwe Gwlad Image copyright Getty Images

Mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn ôl, a gohebydd chwaraeon BBC Cymru, Cennydd Davies sydd wedi bod yn edrych ymlaen.

Pwyntiau bonws, rheolau taclo llym a thaith y Llewod ar y gorwel. Ydy, mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni'n argoeli i fod yn hynod ddiddorol.

Mae naws arbennig Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn ôl, y teimlad 'na sy'n atgoffa rhywun o'ch plentyntod ar noswyl Nadolig.

Mae 'na gyffro, mae 'na gryn edrych ymlaen, a beth bynnag sy' 'di digwydd yn y gorffennol, mae'n lechen lan i bawb.

Yw'r gystadleuaeth eleni'n wahanol?

Wel chi'n siwr o glywed y frawddeg sy'n cael ei hadrodd pob blwyddyn: "Y gystadleuaeth fwya' clos ers blynyddoedd."

Amser a ddengys, ond mae 'na ddau dîm sy'n ymddangos ben ac ysgwyddau'n uwch na'r lleill ar hyn o bryd, wedi i Iwerddon lorio grym y Crysau Duon yn yr Hydref, a'r Saeson o dan Eddie Jones yn parhau i 'sgubo pawb o'r neilltu - mwy am hynny y man.

Image copyright Rex Features
Image caption Wedi buddugoliaeth hanesyddol dros y Crysau Duon llynedd, ai'r Gwyddelod fydd ar y brig eleni?

Ma na sawl is-destun serch hynny i ychwanegu at y cyffro eleni, am y tro cyntaf bydd arbrawf pwyntiau bonws i annog chwarae creadigol, deiniadol a rygbi 15 dyn.

A felly gallwn ni ddisgwyl i Gymru ddiosg yr hen arddull undonog corfforol - Warrenball - wrth i'r arddull newydd yma esblygu. Ond ar sail yr hydref dwi'n dal i ddisgwyl!

Mae'r rheolau taclo newydd ddaeth i rym ar ddechrau'r flwyddyn wedi bod yn bwnc dadleuol a di-drugaredd, a gallwch chi ddisgwyl trafodaethaethau lu ynglŷn â "chardie' melyn yn troi gêm".

DISGYBLAETH, DISGYBLAETH, DISGBYLAETH fydd y gri gan yr hyfforddwyr.

Taith y Llewod i Seland Newydd

Mae'r mater bach o daith y Llewod ym mis Mehefin yn gymhelliad pellach, a sôn am gymhelliad, doedd dim un Cymro yn nhîm dychmygol cyn ganolwr Lloegr, Will Greenwood wrth drafod y Llewod yn ddiweddar.

Image copyright Getty Images
Image caption Allai Lloegr sicrhau'r Gamp Lawn am ail flwyddyn yn olynol dan Eddie Jones?

Ond na phoener, bedair blynedd yn ôl roedd Cymru eto o dan hyfforddiant Rob Howley ac yn dechrau ymgyrch wedi colli pob un o gemau'r Hydref.

Collwyd y gêm agoriadol yn erbyn y Gwyddelod cyn mynd ymlaen i ennill pob un o'r gemau nesaf, a'r bencampwriaeth.

A chanlyniad hynny? 10 o Gymry'n dechrau'r prawf ola' buddugoliaethus yn Awstralia. Ydy mae'r sefyllfa'n gallu newid yn gloi!

Mae'r aros bron ar ben!

Gallwch ddilyn Cymru v Yr Eidal ar lif byw arbennig Cymru Fyw o 13:30 ddydd Sul.

Straeon perthnasol