Prosiect Wylfa Newydd yn wynebu her sylweddol, yn ôl arbenigwr

Wylfa Newydd Image copyright Horizon Nuclear Power
Image caption Os yw'r DU yn gadael corff cydweithredu niwclear Euratom, fe fyddai'n anodd "cynhyrchu'r bobl i gynnal" pwerdai niwclear newydd fel Wylfa Newydd, yn ôl yr Athro Dr Glyn O. Phillips

Mae'r cynlluniau i adeiladu pwerdy ar Ynys Môn yn wynebu heriau sylweddol os yw'r DU yn gadael grŵp cydweithrediad niwclear Ewropeaidd, yn ôl arbenigwr blaenllaw.

Dywedodd yr Athro Dr Glyn O. Phillips wrth Cymru Fyw bod bwriad Llywodraeth y DU i ddod â'u haelodaeth o Euratom i ben yn "ddinistriol" a bydd yn ei gwneud hi'n anodd i gael y staff priodol ar gyfer pwerdai niwclear fel Wylfa Newydd.

Euratom yw'r corff sy'n gyfrifol am gydlynu a rhannu ymchwil ac adnoddau ar gyfer y diwydiant ynni niwclear yn Ewrop.

Bydd y DU yn gadael y corff os yw'r mesur i danio Erthygl 50 yn cael ei gymeradwyo, a hynny achos perthynas gyfreithiol "unigryw" Euratom a'r Undeb Ewropeaidd.

Mynnodd datblygwyr Wylfa Newydd, Pŵer Niwclear Horizon, na fyddai gadael Euratom yn effeithio ar eu gallu nhw i staffio, hyfforddi, a chwblhau'r pwerdy newydd.

Mae llywodraeth y DU wedi dweud eu bod yn parhau i fod yn hollol ymrwymedig i'r safonau uchaf o ddiogelwch ynni niwclear.

'Dinistriol'

Yn ôl yr Athro Phillips, enillydd nifer o wobrau gwyddoniaeth rhyngwladol, byddai gadael Euratom "yn ddinistriol i unrhyw waith niwclear sydd ym Mhrydain".

"'Dan ni wedi crynhoi'r holl adnoddau bellach yn Ewrop, yn CERN [Canolfan Ewropeaidd Ymchwil Niwclear, yn y Swistir]," meddai.

"Mae 'na ganolfan y maen nhw'n trio ei hadeiladu ym Manceinion erbyn hyn, i drio dod â rhyw fath o hyfforddiant, ond yn y pendraw, mae ein hymchwilwyr i gyd yn mynd yn ôl ac ymlaen i CERN.

"Os yw'r cyswllt hwnnw'n cael ei dorri a ninnau'n methu cadw cysylltiad, dwi ddim yn gweld o gwbl sut allan ni gynhyrchu'r bobl sy'n angenrheidiol i gynnal y pwerdai newydd maen nhw'n sôn amdanyn nhw."

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae'r Athro Dr Glyn O. Phillips wedi ennill nifer o wobrau gwyddoniaeth rhyngwladol

Dywedodd bod hyfforddiant yn "hollbwysig" er mwyn staffio'r genhedlaeth nesaf o bwerdai, a bod hynny'n ddibynnol ar "weithio 'efo pobl eraill".

"Dwi ddim yn gweld Brexit, wrth dorri i ffwrdd, yn dod â dim un swydd newydd. Mae hynny'n golygu allwch chi ddim defnyddio adnoddau rhywun arall.

"Allwn ni ddim mynd i Euratom i wneud y gwaith, felly mae'n rhaid i ni gynhyrchu ein pobl ein hunain, mae'n rhaid i ni eu hyfforddi nhw ein hunain, mae'n rhaid i ni greu'r sefydliadau i'w cynnal nhw ein hunain, felly rhaid ailgychwyn o'r dechrau.

"Mae fel mynd yn ôl i'r oes o'r blaen a dechrau buddsoddi o'r dechrau. Mae'r peth yn hollol afresymol a dwi'n siŵr ei fod o'n anymarferol hefyd."

'Dim yn argoeli'n dda'

Byddai'r problemau hyn yn effeithio ar brosiect Wylfa Newydd, yn ôl yr Athro Phillips.

"Gyda Wylfa Newydd, mae'n rhaid mynd ymlaen, wrth gwrs, a rhaid i ni ddibynnu ar bobl o'r tu allan i gael eu hyfforddi, a gwneud y trefniadau i wneud hynny.

"Mae'r buddsoddiad yn mynd i fod yn fwy, ac wrth gwrs mae'r arian yn mynd i fod yn fwy wrth i'r bunt leihau yn ei gwerth. Felly dydy hi ddim yn argoeli'n dda."

Wrth ymateb, fe ddywedodd Pŵer Niwclear Horizon y bydd gadael Euratom yn achosi "problemau", ond na fyddai'n effeithio ar eu gallu i staffio a hyfforddi ar gyfer Wylfa Newydd.

"Er y byddai gweld y DU yn tynnu allan o Euratom yn peri problemau y byddai angen mynd i'r afael â nhw, rydyn ni'n hyderus y gallwn ddatrys y rhain yn brydlon ac yn unol â'n hamserlen i gyflawni ein prif brosiect, Wylfa Newydd," meddai llefarydd.

"Mae'r llywodraeth wedi nodi ei bod yn benderfynol o sicrhau nad oes unrhyw effeithiau negyddol yn sgil tynnu allan o'r rhaglen ac rydyn ni'n croesawu'r ymrwymiad hwn."

Dywedodd y cynghorydd Ieuan Williams, Arweinydd Cyngor Ynys Môn, fod yna gorff rheoleiddio'r diwydiant niwclear eisoes yn bod yn y Deyrnas Unedig.

Dywedodd wrth raglen y Post Cyntaf fod yna waith ymchwil hefyd yn cael ei wneud yn y DU.

"Mae gennym ni brifysgolion yn y wlad yma sydd yn dal i wneud gwaith ymchwil.

"Mae Imperial mewn partneriaeth gyda phrifysgol Manceinion, a hefyd mae Bangor yn siarad efo Imperial i ddod a rhyw fath o waith ymchwil i'r Parc Gwyddoniaeth newydd ar Ynys Môn."

Cyswllt cyfreithiol

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Mae gadael Euratom yn ganlyniad i'r penderfyniad i adael y DU am eu bod wedi eu cysylltu yn gyfreithiol mewn ffordd unigryw. Mae'r DU yn cefnogi Euratom a byddan ni'n hoffi gweld parhau o ran cydweithrediad a safonau.

"Rydyn ni'n parhau i fod yn hollol ymrwymedig i'r safonau uchaf o ddiogelwch niwclear a chefnogaeth i'r diwydiant.

"Mae ein bwriad yn glir, rydyn ni eisiau parhau â'n cydweithrediad llwyddiannus ar faterion niwclear sifil gyda'r UE."

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym ni'n nodi bod Llywodraeth y DU wedi bod yn asesu goblygiadau gadael Euratom.

"Fe fyddan ni'n gofyn am fanylion pellach am y mater, ynghyd â sicrwydd na fydd gadael yn cael unrhyw effaith negyddol ar y sector niwclear yng Nghymru a'r DU."

Mae ymgyrchwyr amgylcheddol hefyd wedi ymateb i'r bwriad i adael Euratom, gyda phennaeth gwyddoniaeth Cyfeillion y Ddaear, Mike Childs, yn dweud: "Mae Euratom wedi bod yn brop gwleidyddol ac yn gefnogwyr i ynni niwclear yn Ewrop ers degawdau - ond does dim gwahaniaeth os yw'r DU i fewn neu allan achos carwriaeth ddiddiwedd Llywodraeth y DU gydag ynni niwclear."