Hwb ariannol i brosiect ymchwil celloedd canser

Celloedd canser Image copyright Getty Images

Fe fydd prosiect ym Mhrifysgol Bangor sydd yn ymchwilio i'r ffordd y mae celloedd canser yn tyfu a rhannu yn derbyn £200,000 dros dair blynedd.

Mae'r arian yn cael ei roi i Sefydliad Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin, rhan o Ysgol Gwyddorau Meddygol y brifysgol, gan Gronfa Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin, elusen annibynnol sydd yn cynnal ymchwil yng ngogledd Cymru a gogledd orllewin Lloegr i'r mathau mwyaf heriol o ganser.

Un o amcanion yr ymchwil yw gweld os oes tebygrwydd rhwng datblygiad celloedd canser a'r ffordd y mae burum yn achosi i does godi.

Dywedodd y darlithydd sy'n arwain yr ymchwil ym Mangor, Dr Rita Cha, bod yna elfennau sy'n gyffredin i'r ddwy broses.

"Mae ymrannu afreolus yn un o nodweddion celloedd canser," meddai. "Mae cell angen ynni i rannu.

"Mae ymchwil yn yr 20 mlynedd ddiwethaf yn dangos bod mwyafrif celloedd canser yn cael yr ynni hwn trwy lyncu maint enfawr o glwcos."

Image copyright Google
Image caption Mae Ysgol Gwyddorau Meddygol Prifysgol Bangor wedi denu ymchwiliwyr dylanwadol yn sgil eu gwaith gyda Chronfa Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin

Ychwanegodd y bydd yr arian yn "gwella ein dealltwriaeth o'r ffordd y mae burum yn gweithio, a defnyddio hwnnw i greu system yn dynwared sut mae celloedd canser yn defnyddio glwcos wrth rannu."

O ganlyniad i'r cyhoeddiad, ar Ddiwrnod Canser y Byd, mae cyfanswm buddsoddiad Cronfa Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin mewn prosiectau yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf wedi codi i fwy na £600k.

'Hanner yn goroesi'

Hyd yn hyn, mae'r elusen wedi ariannu ymchwil gwerth oddeutu £2.5m ym Mhrifysgol Bangor, gan gefnogi ymchwilwyr a myfyrwyr graddau pellach, ers sefydlu Sefydliad Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin yn 2004 ar y cyd â'r brifysgol a Llywodraeth Cymru.

Mae hefyd wedi creu cymrodoriaethau ymchwil, sydd wedi helpu i ddenu rhai o ymchwilwyr canser amlycaf y byd i Fangor.

Yn ôl Dominique Hare o Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin, mae disgwyl i un o bob dau berson gael eu heffeithio gan ganser yn ystod eu bywydau.

"Diolch i waith ymchwil, fe fydd hanner yr holl bobl sydd yn cael gwybod bod canser arnyn nhw yn goroesi erbyn hyn," meddai.

"Mae'n hanfodol bwysig ein bod yn parhau i ariannu ymchwil arloesol ac effeithiol mewn ymateb i gyfraddau cynyddol uwch o ganser yng Nghymru."