400 o rybuddion i gynghorwyr am beidio talu treth y cyngor

Arian a thai Image copyright Getty Images

Mae cynghorwyr ar draws Cymru wedi derbyn cannoedd o rybuddion am beidio talu treth cyngor dros y chwe blynedd ddiwethaf.

Yn ôl ffigyrau ddaeth i law'r BBC, mae bron 400 o negeseuon wedi cael eu gyrru at gynghorwyr sydd mewn dyled - rhai o dros £1,000 - ers 2011.

Cyngor Caerffili oedd yn gyfrifol am y nifer fwyaf o'r rhybuddion - 44 - gan arwain at dair gwŷs llys, ond ni wnaeth cynghorau Wrecsam, Rhondda Cynon Taf na Sir Ddinbych yrru'r un rhybudd.

Ymhlith y rhesymau a roddwyd am fethu taliadau roedd salwch, trafferthion teuluol a bod yn anghofus.

Pan ofynnwyd iddyn nhw ymateb, dywedodd y cynghorau eu bod yn atgoffa'r cyhoedd a chynrychiolwyr etholedig am eu dyletswydd i dalu'r dreth.

Ni wnaeth cynghorau Caerdydd, Gwynedd na Sir Gaerfyrddin ymateb i gais Rhyddid Gwybodaeth y BBC.

Fe wnaeth y BBC hefyd ofyn am ymateb gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Y gogledd

Fe wnaeth Cyngor Sir Ynys Môn gyhoeddi 24 o rybuddion, pedwar rhybudd terfynol ac yn wŷs.

Dywedodd llefarydd bod cyfrifoldeb gan gynghorwyr a threthdalwyr i dalu, ond maen nhw'n rhoi'r bai ar esgeulustod ac "ansicrwydd am daliadau" am fod aelodau etholedig wedi methu talu'n gyson.

Image copyright Getty Images

"Pan mae materion fel hyn wedi codi o'r blaen, mae cynghorwyr wedi ymateb yn gyflym i unrhyw nodyn atgoffa neu rybudd gan y cyngor, ac wedi talu'r gwahaniaeth o fewn amser a gytunwyd," meddai'r llefarydd.

Fe wnaeth Cyngor Conwy gyhoeddi pum rhybudd i ddau gynghorydd, ac fe wnaeth Cyngor Sir y Fflint yrru 19 llythyr ac un wŷs i gynghorydd oedd mewn dyled o £1,022.

Y canolbarth

Cafodd 16 o lythyrau atgoffa eu gyrru gan Gyngor Ceredigion wedi i ddyled un cynghorydd gyrraedd £722, ond dywedodd yr awdurdod bod hynny wedi cyd-fynd â salwch teuluol a bod yr aelod ers hynny wedi sefydlu taliadau uniongyrchol.

Dywedodd yr awdurdod bod yr holl daliadau nawr mewn trefn.

Image copyright Getty Images

Fe wnaeth Cyngor Powys gyhoeddi 27 o lythyrau i chwech o gynghorwyr. Dywedodd y Cynghorydd Wynne Jones: "Nid yw cynghorwyr presennol na'r gorffennol yn cael eu trin yn wahanol i unrhyw un arall, ac mae'n rhaid iddyn nhw sicrhau bod eu taliadau yn cyrraedd yn brydlon.

"Gallai peidio cydymffurfio â hynny arwain at erlyniad troseddol, ac fe allai hynny arwain at ddirwy o hyd at £1,000."

Y de

Ni wnaeth Cyngor Blaenau Gwent ddatgelu faint o rybuddion a gyhoeddwyd, ond fe ddywedon nhw fod un cynghorydd wedi derbyn gwŷs a gorchymyn cyfrifoldeb.

Fe wnaeth Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr gyhoeddi tri rhybudd a thair gwŷs i dri chynghorydd rhwng Ebrill 2013 a Thachwedd 2016.

Yn Sir Benfro fe wnaeth wyth cynghorydd dderbyn 17 o rybuddion ers 2012.

Ar ôl gyrru 44 o rybuddion a thair gwŷs i gynghorwyr rhwng Ionawr 2011 a Thachwedd 2016, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerffili: "Rydym yn weithredol wrth fynd ar ôl unigolion sydd heb dalu'r dreth cyngor waeth beth yw eu swydd."

Image copyright Getty Images

Dim ond am y flwyddyn 2015-16 y daeth manylion gan Gyngor Sir Fynwy, ac fe wnaethon nhw ddweud bod pedwar nodyn atgoffa wedi eu cyhoeddi gan arwain at un wŷs.

Derbyniodd tri o gynghorwyr Castell-nedd Port Talbot rybuddion terfynol cyn talu'r swm llawn, gydag un arall hefyd yn derbyn gwŷs cyn talu'i ddyled.

Yng Nghasnewydd, 29 o lythyrau atgoffa gafodd eu gyrru, gyda dau gynghorydd yn derbyn gwŷs. Yn Abertawe, fe gafodd 27 nodyn eu gyrru at dri chynghorydd, a phedwar gorchymyn cyfrifoldeb eu gyrru at un cynghorydd sydd bellach wedi ei wahardd rhag pleidleisio ar faterion ariannol.

Yn Nhorfaen, fe gafodd saith nodyn atgoffa a thair gwŷs eu cyhoeddi, ac fe dderbyniodd chwe chynghorydd ym Mro Morgannwg gyfanswm o 25 rhybudd a dwy wŷs.