Mae'r llywodraeth wedi "colli cyfle", yn ôl y Cynghorydd Selwyn Griffiths
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Corff trethi: 'Llywodraeth wedi colli cyfle'

4 Chwefror 2017 Diweddarwyd 10:03 GMT

Mae Llywodraeth Cymru "wedi colli cyfle" i ddangos eu hymrwymiad i ardaloedd gwledig drwy leoli corff trethi newydd yn Rhondda Cynon Taf, yn ôl cynghorydd o Borthmadog.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddydd Gwener mai yn Nhrefforest fyddai pencadlys Awdurdod Cyllid Cymru.

Roedd galw am leoli'r corff yn y gogledd yn sgil penderfyniad y Gwasanaeth Cyllid a Thollau i gau swyddfeydd ym Mhorthmadog a Wrecsam.