Wrecsam 3-1 Guiseley

Ntumba Massanka Image copyright Rex Features
Image caption Sgoriodd Ntumba Massanka ei gôl gyntaf dros Wrecsam

Daeth Wrecsam yn ôl i guro Guiseley ar y Cae Ras.

Doedd hi ddim yn ddechrau da iddyn nhw, gyda'r Cymro Jake Cassidy yn rhwydo i'r ymwelwyr ar ôl 11 munud.

Ond daeth y tîm cartref yn ôl wedi 31 munud pan sgoriodd yr ymosodwr Ntumba Massanka, sydd ar fenthyg o Burnley, gôl acrobatig ddisglair.

Sgoriodd John Rooney wedyn ar ôl 64 munud i roi'r cochion ar y blaen, cyn coroni'r fuddugoliaeth gyda gôl arall eiliadau cyn y chwiban olaf.

Mae Wrecsam bellach yn ddegfed yn Nghynghrair Genedlaethol Lloegr, gyda 45 o bwyntiau.