Y Gleision a'r Dreigiau yn colli yn y Gwpan Eingl-Gymreig

Image copyright Getty Images
Image caption Fe sgoriodd Cam Dolan i fechgyn y brifddinas, ond Caerwrangon oedd yn fuddugol ar Barc yr Arfau

Gleision 38-53 Caerwrangon

Fe sgoriodd tîm ifanc Caerdydd bum cais, ond fe ildion nhw wyth, wrth i Gaerwrangon eu curo mewn gêm agored yn y brifddinas.

Roedd hi'n gyfartal - 10 yr un - wedi 20 munud, ond o'r pwynt hwnnw ymlaen, yr ymwelwyr oedd yn rheoli.

Erbyn yr hanner, roedd hi'n 17-36 ac fe ddaliodd Caerwrangon ymlaen i'w mantais tan ddiwedd yr ornest.

Caerloyw 24-13 Dreigiau

Colli oedd hanes y Dreigiau er gwaethaf dau gais gan y clo Matthew Screech.

Tiriodd Cameron Orr tua diwedd yr hanner cyntaf i roi'r tîm cartref ar y blaen, cyn i Henry Trinder ymestyn eu mantais ddechrau'r ail hanner.

Llwyddodd y Dreigiau i daro'n ôl diolch i Screech, ond doedd hynny ddim yn ddigon, gyda Ben Vellacott yn ymateb gyda chais.

Daeth ail gais Screech yn hwyr a chais chysur yn unig oedd e i'r ymwelwyr.