Mosgiau Cymru yn agor eu drysau mewn ymgyrch gymunedol

Canolfan Al-Manar, Caerdydd Image copyright Google
Image caption Mae Canolfan Al-Manar yng Nghaerdydd yn un o'r mosgiau sy'n rhan o'r diwrnod agored

Mae mosgiau ar draws Cymru yn cynnal diwrnod agored ddydd Sul mewn ymgyrch i gryfhau cysylltiadau cymunedol.

Yn ôl y trefnwyr, Cyngor Mwslemaidd Cymru, bydd y cyhoedd yn medru ymweld â'r addoldai a chyfarfod a holi aelodau o'r gymuned.

Mae tri mosg yng Nghaerdydd, ynghyd â safleoedd yng Nghasnewydd, Abertawe, Wrecsam a Bangor yn agor eu drysau.

Mae modd gweld oriau agor y mosgiau ar wefan y cyngor.

Dywedodd y cyngor eu bod am i bobl ddod o hyd i dir cyffredin yn sgil yr hyn maen nhw'n ei alw'n "densiynau cynyddol yn sgil Brexit a thwf yr asgell dde eithafol".