Merched Yr Eidal 8-20 Merched Cymru

Merched Cymru Image copyright Huw Evans picture agency

Roedd 'na ddechrau da i ymgyrch merched Cymru yn y Chwe Gwlad gyda buddugoliaeth yn erbyn yr Eidalwyr.

Rhoddodd cais Caryl Thomas fantais buan i'r Cymry, cyn i Manuela Furlan daro'n ôl i'w gwneud hi'n 8-10 ar yr hanner.

Ond doedd gan y tîm cartref ddim ateb i geisiau'r cefnwr Dyddgu Hywel a'r bachwr Carys Phillips yn yr ail ran.

Ac er iddyn nhw orfod gwrthsefyll pwysau trwm tua diwedd y gêm, daliodd y Cymry i'w mantais a sicrhau pumed buddugoliaeth yn olynol dan lywyddiaeth Rowland Phillips.