Manchester City 2-1 Abertawe

Jesus yn sgorio Image copyright Getty Images
Image caption Jesus oedd yr achubiaeth i Manchester City wrth iddo rwydo gydag eiliadau'n weddill

Aeth Abertawe adre'n waglaw o Fanceinion diolch i gôl hwyr Gabriel Jesus.

Rhoddodd Jesus y tîm cartre' ar y blaen ar ôl 11 munud, ond daliodd amddiffyn yr Elyrch am weddill yr hanner cynta' o dan bwysau trwm.

Cafodd tîm Paul Clement eu gwobrwyo am eu gwaith caled pan rwydodd Gylfi Sigurdsson gydag ergyd o'r tu allan i'r cwrt cosbi ar ôl 81 munud.

Ond yn ôl ddaeth Manchester City, gyda Jesus yn sgorio ei ail yn y cyfnod anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Mae Abertawe'n parhau yn 17eg yn yr Uwch Gynghrair ar 21 o bwyntiau.