Yr Eidal 7-33 Cymru

George North Image copyright Getty Images
Image caption Rhedodd George North 70 metr cyn sgorio trydydd cais Cymru

Fe drechodd Cymru'r Eidalwyr yn Rhufain, ond fe fethon nhw â sicrhau pwynt bonws.

Er fod y Cymry'n edrych yn gyfforddus ar gychwyn y gêm, yr Eidal sgoriodd gyntaf, gydag Edoardo Gori yn tirio ar ôl hanner awr.

Fe ymatebodd y cochion yn sydyn wrth i Leigh Halfpenny sgorio cic gosb, ond y gleision oedd â'r fantais ar yr egwyl.

Dangosodd Halfpenny cystal cicwr ydy e ar ôl y toriad, gan sgorio tair cic cosb arall mewn cyfnod o 10 munud.

Image copyright Getty Images
Image caption Fe sgoriodd Leigh Halfpenny 18 o bwyntiau gyda'i droed

Ac wrth i'r Eidalwyr ddangos eu diffyg disgyblaeth - gydag Andrea Lovotti'n cael ei yrru i'r gell gosb - fe fanteisiodd Jonathan Davies i sgorio cais cyntaf Cymru yn y bencampwriaeth.

Daeth dau gais arall cyn diwedd y gêm - y cyntaf i Liam Williams a'r ail i George North, wnaeth redeg 70 metr cyn tirio.

Bu bron i Williams sicrhau pedwerydd cais gyda symudiad olaf yr ornest, ond penderfynodd y dyfarnwr cynorthwyol nad oedd o wedi tirio.

Dim pwynt bonws i Gymru felly, ond buddugoliaeth, a'r gamp lawn dal yn bosib.