AS yn galw am newid cyfraith ar dreisio
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

AS yn galw am newid cyfraith achosion treisio

5 Chwefror 2017 Diweddarwyd 19:35 GMT

Mae AS Plaid Cymru, Liz Saville Roberts, yn ceisio newid y drefn fel nad oes modd holi achwynwyr mewn achosion o dreisio am eu hanes rhyw.

Bydd hi'n cyflwyno'r mesur aelodau preifat, sydd wedi derbyn cefnogaeth trawsbleidiol, yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mercher.