"Difaru'n syth"

stacey Image copyright Stacey Joy/Facebook

Mae mam i ddwy o Landysul yn parhau i deimlo'n euog, dair blynedd ar ôl i'w chyn-bartner ladd ei hun.

Mae Stacey Joy yn rhannu ei stori yn gyhoeddus am y tro cyntaf gyda BBC Cymru Fyw.


Roedd Stacey Joy, 24, ar y ffôn gyda'i chyn-bartner, a thad ei phlant, pan laddodd ei hun yn 2013.

A hithau'n ddiwrnod cynta'r flwyddyn roedd Stacey Joy gyda'i theulu ac roedd ei chyn-bartner wedi bod yn ei ffonio drwy'r dydd.

"Yn y diwedd, wnes i fynnu ei fod e'n stopio, ac yn gadael llonydd i fi a'r merched," meddai. "Ro'n i'n ymwybodol ei fod e'n isel iawn, ac yn unig, ond digon oedd digon.

"Wnaeth y galwadau barhau tan yr oriau mân, ac roedd e'n dweud wrtha i'n gyson ei fod e am ladd ei hun, felly'r diwrnod yma pan oedd e'n bygwth hynny, wnes i ddim cymryd sylw.

"Roedd e'n aml yn fy ngham-drin i'n feddyliol, a bob tro yn gorffen pethau drwy ddweud ei fod e'n mynd i ladd ei hun. Ond y noson hon, wnes i ddweud rhywbeth na ddywedais erioed o'r blaen, sef 'Jyst gwna fe, a gad lonydd i fi!'

"Wnes i ddifaru'n syth, ond cyn i mi allu dweud unrhyw beth arall, glywais i sŵn rhyfedd, ac fe wnaeth y ffôn ddisgyn yr ochr draw."

Roedd y gwaethaf wedi digwydd, a dyma hi'n ffonio am ambiwlans. Ar ôl awr o aros am newyddion, daeth heddlu i'w chartref i ddweud ei fod wedi crogi ei hun.

Image caption Roedd partner Stacey Joy wedi bod yn ei ffonio yn gyson ar y diwrnod tyngedfennol

Mewn cariad

Roedd y noson dyngedfennol heno yn benllanw blynyddoedd o berthynas a oedd yn gymysgedd o gariad a chasineb.

"Gwrddais i ag e yn syth ar ôl gadael ysgol," meddai. "Ro'n i'n ifanc, ac o edrych yn ôl, ro'n i braidd yn naïf, ac wedi disgyn dros fy mhen a fy nghlustiau mewn cariad ag e.

"Ro'n i'n gweithio bob dydd felly doedd gen i ddim syniad bod ganddo broblemau gydag alcohol, felly ro'n i'n meddwl mai bach o hwyl oedd y meddwi gyda'r nos."

Roedd Stacey Joy yn byw adref gyda'i mam ar y pryd, ac yn fuan iawn fe ddaeth ei phartner i fyw atyn nhw.

"Ar ôl mis, fe dd'wedodd Mam mai digon yw digon, roedd hi'n gweld trwyddo fe, ac yn trio fy argyhoeddi i ei fod e'n ddylanwad drwg," meddai.

"Ond dw i mor benderfynol, wnes i benderfynu peidio gwrando a symud mas gydag e i fyw yn rhywle arall."

Image copyright Llun Llyfrgell
Image caption Penderfynodd Stacey bod ganddi hi a'i phartner ddyfodol er gwaethaf amheuon ei Mam

"Dim ffrindiau, dim arian"

Mae Stacey'n difaru gadael ei swydd er mwyn bod gyda'i phartner yn gyson: "Yn sydyn iawn, doedd gen i ddim ffrindiau, dim teulu, dim arian."

Roedd hi'n ddall i'w reolaeth drosti ar y pryd meddai ond yn ymwybodol erbyn hyn o'i alcoholiaeth ac yn teimlo y gallai ei helpu.

Dechreuodd pethau edrych yn well am gyfnod wedi i'w phartner gael swydd a rhoi'r gorau i yfed.

Ond fe newidiodd pethau eto pan gollodd ei swydd, dioddef iselder mawr a bwrw'r botel eto.

"Yn sobor, roedd e'n lyfli, ond yn feddw, roedd e'n ofnadwy," meddai.

"Dw i'n cofio'r diwrnod pan aeth e mor feddw, es i i weld ffrind yng Nghaerfyrddin, ac fe aeth e'n wallgo'. Ro'n i'n feichiog, dim ond mis oedd i fynd tan fod y babi fod i gyrraedd.

"Doedd e ddim yn hapus fy mod i wedi mynd, ac fe wnaeth e drio fy ngwthio i lawr grisiau serth ger arhosfan bysiau.

"Yr eiliad yma, ro'n i'n gwybod. Doedd hyn ddim yn iawn o gwbl, ac roedd rhaid dianc."

Y storm yn tawelu

Symudodd yn ôl at ei mam, ond doedd bywyd ddim yn hawdd o hyd, meddai.

"Roedd yna lawer iawn o gam-drin meddyliol, a guilt tripping, ac yn sydyn iawn dyma fi'n ffeindio fy hun yn ôl yn ei freichiau.

"Cafodd fy merch fach ei geni, ac fe dawelodd y storm am ychydig, ac fe wnaethon ni balu ymlaen.

"Ond roedd ei broblemau yn dal i fod yno, ac yn y diwedd, roedd e'n cam-drin ei hun, yn torri ei hun, ac un tro roedd rhaid i mi a fy mabi bach un mis oed fynd ag e i'r ysbyty.

"Ar y pryd, ro'n i'n teimlo ei bod hi mor bwysig i fi aros gyda thad fy mhlentyn, er ei mwyn hi. Erbyn hyn hefyd, ro'n i'n disgwyl ein hail blentyn."

Ond sylweddolodd Stacey yn y pen-draw nad oedd eisiau aros yn y fath awyrgylch ac fe adawodd eto: "Yr holl gam-drin, y tymer gwyllt. Roedd e mor annheg ar fy mhlant i."

Image copyright Llun llyfrgell
Image caption Ar ôl colli ei swydd trodd partner Stacey yn ôl at gysur y ddiod

Hunllef o hyd

Mae'r hyn a ddigwyddodd ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn yn 2013 wedi gadael craith ar ei meddwl sydd heb iacháu, meddai.

"Dw i'n teimlo ei fod e'n fy mygwth i, mae e wastad yna fel petai. Dw i'n dioddef o or-bryder ac yn cael pyliau o banig yn gyson. Dw i'n teimlo'n euog, ac yn teimlo fel pe bawn i wedi methu fel rhiant," meddai.

Ond dydy Stacey ddim yn teimlo y byddai hi wedi gallu stopio'r weithred:

"Roedd e wedi dioddef o iselder am flynyddoedd ac wedi trio cyflawni hunanladdiad gwpwl o weithiau'n aflwyddiannus," meddai.

"Roedd ei freichiau'n llawn o farciau ac, wrth gwrs, roedd yr alcoholiaeth yn broblem fawr.

"Roedd e'n ddyn anhapus iawn, ac roedd e wedi trio meddyginiaeth, ac wedi bod at y doctor. Wnaeth dim byd weithio, doedd e ddim eisiau derbyn unrhyw gymorth."

Mae'r hunllef yn dal i fod yn fyw iawn iddi, ac mae'r ffaith nad yw ei phlant yn gwybod yr hanes yn bryder mawr iddi.

"Dw i wir ddim yn edrych ymlaen at y diwrnod pan fydd rhaid i mi ddweud wrth fy mhlant. Dy'n nhw ddim yn gwybod dim am yr hanes, nac am eu tad.

"Dyw bywyd ddim yn hawdd o gwbl. Mae'r euogrwydd dw i'n ei deimlo yn uffernol, yn fy mwyta i'n fyw, a dw i'n poeni'n fawr y bydd fy mhlant yn dal hyn yn fy erbyn i pan fyddan nhw'n hŷn.

"Yr unig beth dw i'n falch ohono yw fy mod i wedi llwyddo i ddianc, a'u bod nhw ddim wedi gorfod wynebu'r un pethau wnes i eu goddef."

Stori: Llinos Dafydd