Meryl Gravell
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Creu pentref llesiant fel rhan o gynlluniau gofal

8 Chwefror 2017 Diweddarwyd 10:59 GMT

Mae cynlluniau i drawsnewid gofal yn ne orllewin Cymru yn cael eu gweld fel rhai ymhlith y mwyaf uchelgeisiol erioed yng Nghymru.

Mae prosiect "Arch" wedi ei datblygu fel rhan o bartneriaeth "cwbl unigryw" rhwng Byrddau Iechyd Abertawe Bro Morgannwg, Hywel Dda a Phrifysgol Abertawe.

Un elfen yw'r bwriad i adeiladu Pentref Llesiant mewn cydweithrediad a Chyngor Sir Gar- ar hen safle diwydiannol yn Llanelli fyddai yn cynnwys canolfan hamdden, meysydd chware a pharciau, canolfan iechyd cymunedol, canolfan adferiad a chartrefi gofal.

Un o arweinwyr y prosiect, Meryl Gravell sydd yn esbonio'r syniad.