Agor cwest paragleidiwr o Sir Ddinbych fu farw yn Nepal

Nepal
Image caption Mae Nepal yn gyrchfan boblogaidd i baragleidwyr

Clywodd cwest i farwolaeth dyn o Sir Ddinbych ei fod wedi marw mewn damwain paragleidio ar ddechrau ei wyliau yn Nepal.

Fe wnaeth Michael Peter Blanchard, 67 oed ac o Bwllglas ger Rhuthun, ddioddef anafiadau i'w ben a'i goesau wedi iddo golli rheolaeth a tharo coeden.

Bu farw Mr Blanchard, oedd wedi ymddeol, yn ystod y ddamwain ar 21 Ionawr yn ardal Pokhara o'r wlad - tua 120 o filltiroedd o'r brif ddinas.

Cafodd ei gludo i'r ysbyty yn Pokhara, lle cafodd ei adnabod gan fanylion ei basport.

Mewn gwrandawiad byr yn Rhuthun, dywedodd Uwch Grwner Dwyrain a Chanolbarth Gogledd Cymru, John Gittins fod archwiliad post mortem wedi ei gynnal yn Nepal, a bod hwnnw wedi darganfod "anafiadau grymus i'r pen a'r pelfis".

Mae'r Gymdeithas Paragleidio Brydeinig yn ymchwilio i'r digwyddiad ac fe gafodd y cwest ei ohirio tan y bydd gwrandawiad llawn yn cael ei gynnal yn ddiweddarach yn y flwyddyn.