Plaid Cymru: Galw ar ACau i wrthwynebu tanio Erthygl 50

Senedd

Mae Plaid Cymru wedi cadarnhau y bydden nhw'n gorfodi pleidlais ar danio Erthygl 50 yn y Cynulliad ddydd Mawrth.

Mae'r blaid yn galw ar Aelodau Cynulliad i wrthwynebu dechrau'r broses Brexit nes bydd sicrwydd yn cael ei roi am y farchnad sengl.

Dyfarnodd yr Uchel Lys ym mis Ionawr nad oedd gan y Cynulliad hawl gyfreithiol i gael ymgynghori ynglŷn â thanio Erthygl 50.

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones eisoes wedi dweud na ddylid rhwystro Erthygl 50 - sef dechrau'r broses y DU o adael yr Undeb Ewropeaidd - ond bod hawl gan Aelodau Cynulliad i fynegi barn.

Dywedodd llefarydd ar ran UKIP bod cynnig Plaid Cymru yn "warthus".

'Mynegi barn'

Mae'r cynnig, fydd yn cael ei drafod ddydd Mawrth, yn galw ar weinidogion i barchu lle Cymru o fewn y Farchnad Sengl, rhywbeth gafodd ei gynnwys mewn papur gwyn gafodd ei lunio ar y cyd rhwng Llafur a Phlaid Cymru.

Ond nid yw'r cynnig yn son am wrthwynebu tanio Erthygl 50.

Mae Plaid Cymru wedi galw am i wrthwynebiad o'r fath gael ei gynnwys yn y cynnig.

Dywedodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Steffan Lewis: "Pan fydd y papur gwyn yn cael ei drafod yn y Cynulliad ddydd Mawrth, rydym ni yn credu ei bod hi'n gwbl addas i Aelodau Cynulliad gael mynegi barn ar danio Erthygl 50."

Dywedodd llefarydd ar ran Mr Jones: "Mae'r penderfyniad wedi ei wneud bydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Y sialens yr ydyn yn ei wynebu nawr yw sicrhau bod Cymru yn cael y cytundeb gorau ynghyd a'r DU."

'Gwarthus'

Mae disgwyl i'r Ceidwadwyr ac UKIP bleidleisio yn erbyn y newid sydd yn cael ei gynnig gan Plaid Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran UKIP bod argymhelliad Plaid Cymru yn "warthus" a dylai Plaid Cymru "barchu dymuniad pobl Cymru".

Fe bleidleisiodd mwyafrif o bobl Cymru dros adael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm ym mis Mehefin.

Yn y Senedd nos Lun, roedd Plaid Cymru wedi colli cynnig i geisio gorfodi Llywodraeth y DU i adrodd 'nol i'r Cynulliad ar effaith colli arian Ewropeaidd yn sgil Brexit.

Roedd Aelod Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr Jonathan Edwards wedi ceisio newid y mesur fyddai'n tanio Erthygl 50, gan ddadlau y byddai'n arwain at "y weithred fwya' mewn hanes economaidd o ran colli swyddi".

"Efallai bod [y mesur] yn fyr ond mae'n llawn - llawn o Brexit sy'n anwybyddu addewidion gafodd eu gwneud yn ystod ymgyrch Vote Leave," meddai wrth ASau, gan gyfeirio at addewid i gyfnewid grantiau o'r UE gydag arian o lywodraeth y DU.