Oedi yn Sir Fynwy wedi damwain M4

Damwain Image copyright TRAFFIC WALES
Image caption 3 lôn ynghau yn Sir Fynwy

Mae yna oedi i geir a cherbydau ar ffordd ddwyreiniol yr M4 ger Casnewydd wedi damwain yn Sir Fynwy, rhwng bws, fan a char y bore 'ma.

Cafodd tair lôn eu cau wrth gyffordd 23A, Gwasanaethau Magwyr, ac roedd 'na adroddiadau bod ceir yn ciwio hyd at 10 milltir i ffwrdd ger cyffordd 27, ger Casnewydd.

Digwyddodd y gwrthdrawiad tua 06:50.

Bu'n rhaid i'r traffig ddefnyddio'r llain galed am gyfnod.

Aed ag un dyn i'r ysbyty ond nid yw ei anafiadau yn rhai difrifol.