AC yn cynnig mesur i roi gwersi achub bywyd i blant

diffibriliwr
Image caption Yn ôl ffigyrau Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru mae bron i 2,000 o ddiffibrilwyr yng Nghymru

Byddai cyfrifoldeb ar ysgolion Cymru i sicrhau bod disgyblion yn cael hyfforddiant mewn sgiliau achub bywyd, o dan ddeddf newydd sy'n cael ei chynnig ddydd Mercher.

Suzy Davies - Aelod Cynulliad Ceidwadol Gorllewin De Cymru - fydd y gwleidydd cyntaf i ddefnyddio'r drefn drafod newydd i gynnig y mesur.

Mae'r mesur yn ceisio taclo'r ffaith bod bron i 8,000 o bobl yng Nghymru yn diodde' ataliad ar y galon bob blwyddyn.

Mae gan bobl sy'n dioddef ataliad yng Nghymru 3% o obaith o oroesi, o'i gymharu â 50% mewn rhannau eraill o Ewrop yn ôl yr elusen Arrhythmia Alliance.

Mae Ms Davies yn credu y byddai creu cyfrifoldeb cyfreithiol i hyfforddi plant mewn sgiliau fel CPR a defnyddio diffibrilwyr yn achub bywydau pobl fyddai'n marw fel arall, a bod modd parhau i ddatblygu'r sgiliau yna fel oedolion.

Fel rhan o'r mesur, byddai plant hefyd yn cael hyfforddiant i drin gwaedu, tagu a mynd yn anymwybodol.

Camau gweithredu

Fe ddaw cynnig Ms Davies wrth i'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, ddweud ei fod yn bwriadu cyhoeddi Cynllun Ataliad ar y Galon y Tu Allan i'r Ysbyty yn y gwanwyn.

Nod y cynllun fydd "codi ymwybyddiaeth am ddulliau dadebru a sicrhau bod CPR a diffibrilwyr yn cael eu defnyddio'n gynnar yn amlach," yn ôl Mr Gething.

"Rydyn ni'n ceisio gwella'r gofal mae cleifion yn ei dderbyn, o ddadebru llwyddiannus i'r gofal adsefydlu," meddai.

"Mae gofal y galon a'r cyfraddau goroesi yn parhau i wella ac fe hoffwn i ddiolch i staff y Gwasanaeth Iechyd a'r rhanddeiliaid eraill sydd wedi cyfrannu at y gwelliannau hyn."

Image caption Mae Vaughan Gething yn bwriadu cyhoeddi cynllun sy'n ceisio "gwella'r gofal mae cleifion yn ei dderbyn"

Bydd y cynllun yn cynnwys camau gweithredu i adnabod ataliad ar y galon yn gynt, rhoi CPR o ansawdd uchel ar unwaith, defnyddio diffibrilwyr yn gynnar a rhoi gofal effeithiol ar ôl dadebru.

Mae'r cynlluniau'n cynnwys sicrhau bod gan y timau adsefydlu cardiaidd yr hyfforddiant cywir a'u bod yn rhoi gofal cyson ledled Cymru.

'Gwahaniaeth rhwng byw a marw'

Yn ôl ffigyrau Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru mae 1,939 o ddiffibrilwyr yng Nghymru, ond dywedodd Ms Davies: "Yn anffodus does dim digon o bobl yng Nghymru gyda'r sgiliau na'r hyder i roi'r cyfle gorau i ddioddefwyr oroesi yn y munudau cyntaf hollbwysig yna.

"Mae'r galw cynyddol am wasanaethau ambiwlans yn golygu bod oedi yn aml wrth ymateb i sefyllfaoedd brys.

"Os ydyn ni'n sicrhau bod gan blant sgiliau achub bywyd sylfaenol, gallai triniaeth ganddyn nhw yn y fan a'r lle olygu'r gwahaniaeth rhwng byw a marw."

Image caption Yn ôl Suzy Davies does dim digon o bobl â'r sgiliau achub bywyd angenrheidiol

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "codi ymwybyddiaeth o'r pwysigrwydd o ddysgu sgiliau achub bywyd".

"Mae dysgwyr yng Nghymru yn gallu datblygu'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar gyfer bywyd pob dydd, fel cymorth brys, fel rhan o Addysg Bersonol a Chymdeithasol, sy'n ffurfio rhan o'r cwricwlwm presennol ar gyfer pob disgybl mewn ysgolion a gynhelir," meddai.