Pêl-rwyd: Cymru 27-92 Seland Newydd

Georgia Rowe Image copyright Getty Images

Fe wnaeth Seland Newydd ddangos pam eu bod yn un o dimau pêl-rwyd gorau'r byd wrth iddyn nhw drechu Cymru'n gyfforddus yn y cyntaf o ddwy gêm yng Nghaerdydd.

Roedd yr ymwelwyr ar y blaen o 9-21 ar ddiwedd y chwarter cyntaf, cyn ymestyn eu mantais i 18-45 erbyn hanner amser.

Er iddyn nhw wneud newidiadau, roedd Seland Newydd yn parhau'n gyfforddus yn yr ail hanner wrth iddyn nhw arwain o 25-67 ar ddiwedd y trydydd chwarter.

Dim ond dau bwynt wnaeth Cymru ychwanegu yn y chwarter olaf, wrth i'r ymwelwyr ennill o 27-92.

Bydd y ddau dîm yn herio'i gilydd unwaith eto ddydd Mercher.