Lluoedd Heddlu Cymru yn talu £590,000 i bobl am wybodaeth

arian

Mae lluoedd heddlu yng Nghymru wedi talu dros £590,000 i hysbyswyr dros y pum mlynedd diwethaf, yn ôl ffigyrau sydd wedi dod i law'r BBC.

Ond roedd gwahaniaethau mawr yn y symiau gafodd eu talu, gyda Heddlu'r De yn talu bron i ddeg gwaith yn fwy na heddlu'r Gogledd.

Mae hysbyswyr yn bobl sydd yn cael eu talu am wybodaeth allai fod o ddefnydd i'r heddlu wrth ddatrys achosion, ac maen nhw'n gallu derbyn unrhyw beth o ychydig bunnoedd am wybodaeth sylfaenol, i filoedd o bunnau am gynorthwyo gyda throseddau mwy difrifol.

Mae Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu wedi mynnu ei fod yn "dacteg cost effeithiol", ond mae eraill wedi beirniadu effeithiolrwydd y dechneg.

'Mater i'r heddlu'

Dangosodd cais rhyddid gwybodaeth gan BBC Radio 5 Live bod Heddlu Gogledd Cymru wedi gwario £38,540 ar hysbyswyr dros y pum mlynedd diwethaf - y swm isaf o holl luoedd heddlu Cymru a Lloegr.

Roedd Heddlu Dyfed Powys wedi gwario £66,435 dros yr un cyfnod, Heddlu Gwent wedi gwario £140,755, a Heddlu De Cymru wedi gwario £345,833.

Ar draws Cymru a Lloegr fe wnaeth lluoedd heddlu dalu £19.5m i hysbyswyr rhwng 2011 a 2016.

Heddlu'r Met ddaeth i'r brig, gan wario £5.2m, gyda Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon yn ail gan wario £2m.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref bod talu hysbyswyr "yn fater gweithredol i'r heddlu".

Image copyright Heddlu'r Met

Mae lluoedd heddlu yn cael eu harchwilio ar eu defnydd o hysbyswyr er mwyn sicrhau nad ydyn nhw'n torri'r gyfraith.

Ond er nad oes ffigyrau swyddogol am nifer y bobl sydd yn cael eu dedfrydu o ganlyniad i wybodaeth gan hysbyswyr, mae Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu wedi amddiffyn yr arfer.

"Mae'n dacteg sefydledig, wedi'i reoleiddio'n agos, yn werthfawr a chost effeithiol, gyda'r arian sy'n cael ei dalu i hysbyswyr yn cael ei graffu fanwl," meddai'r Dirprwy Brif Gwnstabl Roger Bannister, sydd yn arwain gwaith y cyngor yn y maes.

Ar y llaw arall dywedodd Neil Wood, cyn-swyddog heddlu cudd oedd yn gweithio gyda hysbyswyr, ei fod yn dacteg allai weithio mewn rhai achosion, ond ei fod yn aneffeithiol ar brydiau eraill fel yn y rhyfel ar gyffuriau.

"Does neb eisiau achwyn ar y barwniaid cyffuriau am eu bod nhw'n poeni am ddial ymosodol, felly dim ond y rhai haws sy'n cael eu dal - ac mae'r masnachu'n parhau," meddai.