Uchel Lys yn caniatáu gwerthiant Dŵr Dyffryn Dyfrdwy

dwr tap Image copyright Thinkstock

Mae'r Uchel Lys wedi penderfynu caniatáu i gwmni Dŵr Dyffryn Dyfrdwy gael ei brynu gan Severn Trent.

Daeth y dyfarniad yn dilyn ffrae dros bleidlais cyfranddalwyr gafodd ei chynnal ym mis Rhagfyr.

Roedd rhai staff a chwsmeriaid wedi gwrthwynebu'r gwerthiant oherwydd pryderon ynglŷn â swyddi a biliau.

Ond fe allai'r cytundeb gael ei hatal unwaith eto os yw apêl newydd yn cael ei chyflwyno.

Dywedodd llefarydd ar ran Severn Trent eu bod yn "hapus gyda'r dyfarniad ac yn aros am ddiweddariadau pellach gan y llys".

Roedd yr achos wedi cael ei ddisgrifio gan staff y cwmni o Wrecsam fel "brwydr Dafydd a Goliath rhwng staff a chwsmeriaid lleol a chwmni FTSE 100".

Trosglwyddo cyfranddaliadau

Fe wnaeth cyfranddalwyr Dŵr Dyffryn Dyfrdwy gwrdd ym mis Ionawr i bleidleisio ar gynllun i gael eu prynu gan gwmni Severn Trent am £84m.

Ond cafodd cyfranddaliadau eu trosglwyddo i 445 o gwsmeriaid a staff cyn y bleidlais i geisio eu hatal rhag symud i ddwylo'r cwmni o Coventry.

Mae'r Uchel Lys nawr wedi penderfynu y gall y gwerthiant fynd yn ei flaen er gwaethaf trosglwyddo'r cyfranddaliadau.

Ond fe benderfynodd y llys ohirio'r achos nes 10 Chwefror rhag ofn y bydd apêl bellach yn cael ei gyflwyno.

Image caption Cafwyd protestiadau yn erbyn y gwerthiant i Severn Trent

Mae Dŵr Dyffryn Dyfrdwy yn cyflogi tua 180 o weithwyr ac mae ganddo 230,000 o gwsmeriaid yn ardaloedd Wrecsam a Chaer.

Mae cwsmeriaid yn talu £145 y flwyddyn ar gyfartaledd ar gyfer eu dŵr, o'i gymharu â £172 i gwsmeriaid Severn Trent.

Roedd Severn Trent wedi cynnig mwy o arian na chwmni buddsoddi Ancala o Lundain, oedd wedi cynnig tua £78.5m i brynu Dŵr Dyffryn Dyfrdwy.

Mae staff Dŵr Dyffryn Dyfrdwy eisoes wedi galw i "gadw eu swyddi ac annibyniaeth y cwmni".

Dywedodd AC Plaid Cymru ar gyfer y gogledd, Llŷr Gruffydd y byddai'r pryniant yn arwain at golli swyddi, ac y byddai "rheolaeth o adnodd Cymreig pwysig yn gadael Cymru".

Mae Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi Llywodraeth Cymru a'r AC dros Dde Clwyd, hefyd wedi dweud ei fod yn "siomedig" â'r penderfyniad.

'Apêl costus'

Dywedodd cwmni Ancala nad oedden nhw'n bwriadu lansio apêl yn erbyn dyfarniad yr Uchel Lys, ond y gallai gweithwyr Dŵr Dyffryn Dyfrdwy barhau â'r achos.

Yn ôl Tim Power, is-lywydd Ancala, roedd y penderfyniad yn "golled i'r dyn bach" a'u bod wedi "ymladd brwydr dda".

Ychwanegodd mai mater i weithwyr Dŵr Dyffryn Dyfrdwy oedd unrhyw gamau pellach, ond y gallai apêl fod yn gostus a chymryd misoedd.

Dywedodd Rhys McKenzie, un o'r cyfranddalwyr a chyn-weithiwr gyda Dŵr Dyffryn Dyfrdwy, ei fod yn pryderu am ei gyn-gydweithwyr ond hefyd am y gogblygiadau i "gyfranddalwyr bychan ar hyd a lled y wlad".