Faletau yn holliach i herio Lloegr, ond amau North a Biggar

Faletau Image copyright Rex Features

Mae wythwyr Cymru, Taulupe Faletau, yn holliach ar gyfer y gêm yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn.

Nid yw'r blaenwr wedi chwarae ers anafu ei ben-glin wrth chwarae i Gaerfaddon ar noswyl Nadolig.

Ond er yr hwb i'r garfan o groesawu Faletau yn ôl, mae pryder am ffitrwydd George North, Dan Biggar a Luke Charteris.

Cafodd yr asgellwr North a'r maswr Biggar eu hanafu yn y fuddugoliaeth yn erbyn Yr Eidal ddydd Sul, tra bod Charteris wedi ei anafu cyn dechrau'r bencampwriaeth.

Ddydd Mercher, dywedodd hyfforddwr amddiffyn Cymru, Shaun Edwards, y byddai Faletau yn cael ei ystyried ar gyfer y gêm yn erbyn y Saeson yng Nghaerdydd.

Ychwanegodd y byddai angen mwy o amser cyn penderfynu ar ffitrwydd y chwaraewyr eraill.

"Rydyn ni'n rhoi gymaint o amser â phosib iddyn nhw fod yn barod i'r gêm," meddai Edwards.

"Coes gwsg sydd gan George [North]. Roedd ganddo gleisiau gwael iawn ar ei goes, a byddwn ni'n rhoi mor hir â phosib iddo."

Image copyright Getty Images
Image caption Rhedodd George North 70 metr cyn sgorio trydydd cais Cymru yn erbyn Yr Eidal

Ychwanegodd: "Bydd Taulupe [Faletau] ar gael, ac mae'n rhaid i ni aros am Luke [Charteris]."

Mae Charteris yn dioddef o anaf i'w law, tra bod Biggar wedi gadael y cae yn erbyn Yr Eidal ar ôl ergyd i'w asennau.

Bydd hyfforddwr dros dro Cymru, Rob Howley, yn cyhoeddi ei dîm ddydd Iau.

Straeon perthnasol