Achubwyr môr yn dod o hyd i ddyn 'coll' yn y dafarn

Tafarn y Ship, Talsarnau Image copyright Google
Image caption Mae tafarn y Ship yn Nhalsarnau yr ochr arall i afon Dwyryd gyferbyn â'r ardal lle roedd achubwyr yn credu fod y dyn wedi mynd ar goll

Cafodd dyn, a oedd yn cael ei amau o fod ar goll yn y môr yng Ngwynedd, ei ddarganfod gan achubwyr yn y dafarn leol.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 18:00 ddydd Mercher, yn dilyn adroddiadau ei fod wedi ei ynysu wrth i'r llanw ddod i mewn ym Mhortmeirion.

Cafodd hofrennydd achub o Gaernarfon a chwch Gwylwyr y Glannau o Griccieth eu hanfon i chwilio amdano.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau Caergybi bod y dyn wedi "achub ei hun" cyn mynd i dafarn y Ship ym mhentref Talsarnau gerllaw.

Mae'r dafarn yr ochr arall i afon Dwyryd, gyferbyn â'r fan lle roedd achubwyr yn credu fod y dyn wedi mynd ar goll.